Canfod a oes raid i chi dalu cyfraddau uwch y Dreth Trafodiadau Tir (TTT) pan fyddwch yn prynu eiddo preswyl yng Nghymru.
Cynnwys
Trosolwg
Ar gyfer eiddo preswyl, mae 2 gyfradd TTT: y brif gyfradd a’r gyfradd uwch. Mae'r canllawiau yma’n amlinellu pryd a pham y mae'r cyfraddau treth uwch yn berthnasol.
Gallwch hefyd ddefnyddio ein gwiriwr cyfraddau uwch i'ch helpu i gyfrifo pa gyfradd TTT sy'n berthnasol i'ch pryniant preswyl.
Llywodraeth Cymru sy’n gosod y cyfraddau treth.
Pryd nad oes rhaid i chi dalu TTT
Ni fydd rhaid i chi dalu TTT os fyddwch chi’n:
- prynu eiddo am lai na £225,000 ac nad ydych yn berchen ar unrhyw eiddo arall
- prynu les newydd am lai na 7 mlynedd
Pryd mae cyfraddau uwch yn berthnasol
Byddwch fel arfer yn talu cyfraddau TTT uwch pan fydd y ddwy ffactor hyn yn berthnasol:
- rydych yn prynu eiddo preswyl gwerth £40,000 neu fwy
- rydych eisoes yn berchen ar un eiddo arall neu fwy
Dylech gynnwys unrhyw eiddo preswyl:
- sydd yn berchen i chi ar ran plant o dan 18 oed (caiff rhieni eu trin fel perchnogion, hyd yn oed os yw'r eiddo'n cael ei ddal drwy ymddiriedolaeth ac nad hwy yw'r ymddiriedolwyr)
- y mae gennych chi fuddiant ynddo fel buddiolwr ymddiriedolaeth
Os ydych yn gwmni
Rhaid i gwmnïau dalu cyfraddau uwch am unrhyw eiddo preswyl y maen nhw’n ei brynu os:
- yw’r eiddo yn £40,000 neu fwy
- nad oes gan yr eiddo y maen nhw’n ei brynu les arno gyda mwy na 21 mlynedd ar ôl arni
Gall trosglwyddiadau ecwiti hefyd fod ar y cyfraddau uwch.
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil
Mae'r rheolau'n berthnasol i'r ddau ohonoch fel petaech yn prynu'r eiddo gyda'ch gilydd, hyd yn oed os nad ydych yn gwneud hynny.
Os bydd cyfraddau uwch yn berthnasol i'r naill neu'r llall ohonoch yn unigol, mae cyfraddau uwch yn berthnasol i'r trafodiad cyfan.
Prynu gyda rhywun arall
Mae'r rheolau'n berthnasol i bob person sy'n prynu'r eiddo (a'u priod neu bartner sifil).
Os yw’r cyfraddau uwch yn berthnasol i unrhyw un ohonoch yn unigol, mae’r cyfraddau uwch yn berthnasol i'r trafodiad cyfan.
Gall y cyfraddau uwch fod yn berthnasol os ydych eisoes yn berchen ar eich cartref eich hun a’ch bod yn prynu eiddo preswyl gyda neu'n cefnogi:
- ffrind
- aelod o'r teulu
- unrhyw un arall
Gall cyfraddau uwch fod yn berthnasol hyd yn oed os na fyddwch yn byw yn yr eiddo, os y byddwch chi’n berchennog cyfreithiol ar weithredoedd yr eiddo.
Mathau o forgeisi
Gall gwahanol fathau o forgeisi effeithio ar p'un ai yw'r cyfraddau uwch yn berthnasol.
Ni all ACC roi cyngor ar y gwahanol fathau o gynhyrchion morgais sydd ar gael ar y farchnad.
Pryd nad yw'r cyfraddau uwch yn berthnasol
Ni fyddwch yn talu cyfraddau uwch fel arfer os:
- ydych yn defnyddio eich eiddo newydd fel eich prif gartref a’ch bod wedi gwerthu’r prif gartref diwethaf yr oeddech yn berchen arno cyn i chi brynu eich cartref newydd (neu ar yr un diwrnod).
- yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i'r eiddo rydych yn ei brynu:
- mae’n werth llai na £40,000
- mae’n gymysgedd o ofod preswyl a gofod amhreswyl (er enghraifft siop gyda fflat uwch ei phen)
- mae’n 'symudol' fel carafan, cwch preswyl neu gartref symudol
- mae’n eiddo rhydd-ddaliadol sy'n destun les sydd â mwy na 21 o flynyddoedd ar ôl arni, sydd ym meddiant rhywun sydd heb gysylltiad â chi
Pryd a sut i gael ad-daliad
Os ydych yn gwerthu eich prif gartref blaenorol o fewn 3 blynedd i brynu eich prif gartref newydd, fel arfer gallwch wneud cais am ad-daliad.
Yr ad-daliad yw'r gwahaniaeth rhwng symiau’r cyfraddau uwch a'r prif gyfraddau.
Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell treth i’ch helpu i gyfrifo hyn.
Os byddwch yn prynu prif gartref newydd, ond nad ydych wedi gwerthu eich hen brif gartref eto, bydd cyfraddau uwch yn dal i fod yn berthnasol i'r trafodiad.
Ni allwch gael ad-daliad os:
- ydych chi neu'ch priod/partner sifil yn dal i fod yn berchen ar unrhyw ran o'ch prif gartref blaenorol
- yw'r cyfraddau uwch yn dal i fod yn berthnasol am unrhyw reswm arall
Gall cyfnod hirach ar gyfer gwerthu eich prif breswylfa flaenorol fod yn berthnasol mewn rhai sefyllfaoedd. Am fwy o wybodaeth am y cyfnod hirach hwn, defnyddiwch ein canllawiau technegol y cyfraddau uwch.
Rhyddhad ac eithriadau
Efallai y byddwch yn gymwys i gael rhyddhad sy'n lleihau swm y dreth trafodiadau tir y byddwch yn ei thalu neu eithriad fel nad oes rhaid i chi dalu.
Os byddwch yn:
- prynu mwy nag 1 eiddo, mae'n bosibl y byddwch yn gymwys i wneud cais am ryddhad anheddau lluosog.
- prynu eiddo sy'n cynnwys 2 annedd neu fwy, mae’n bosibl y gall yr eithriad is-anheddau fod yn berthnasol.
Os byddwch yn prynu 6 eiddo neu fwy, gallwch fel arfer ddewis talu naill ai:
- gyfraddau TTT amhreswyl
- cyfraddau TTT uwch gyda rhyddhad anheddau lluosog
Sut i ddiwygio ffurflen TTT
Os ydych chi'n credu eich bod wedi cyflwyno'ch ffurflen TTT gyda'r gyfradd TTT anghywir neu unrhyw gamgymeriad arall arni, gallwch ddiwygio eich ffurflen TTT drwy ddefnyddio ein ffurflen.
Cymorth a chefnogaeth
Mae cyfraddau uwch yn rhan gymhleth o'r dreth. Nid yw'r canllaw hwn yn cynnwys pob senario ac ni ddylid dibynnu ar y rhain yn unig er mwyn penderfynu a oes rhaid i chi dalu unrhyw dreth.
I gael esboniad manylach, neu os ydych yn ansicr sut mae'r dreth yn berthnasol:
- defnyddiwch ein canllawiau technegol y cyfraddau uwch
- gwyliwch ein fideos esboniadol byr ar y cyfraddau uwch
- efallai y byddwch am holi cyfreithiwr neu drawsgludydd
- cysylltwch â ni