Heddiw, cyhoeddir glasbrintiau sy’n amlinellu dull newydd o ymdrin â chyfiawnder ieuenctid a throseddu gan fenywod yng Nghymru.
Cafodd y glasbrintiau eu datblygu ar y cyd â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi a Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru.
Mae’r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid a’r Glasbrint ar gyfer Troseddwyr Benywaidd yn disgrifio prif ddyheadau ac egwyddorion arweiniol Cymru ar gyfer y menywod a’r bobl ifanc hynny sydd yn y system cyfiawnder troseddol, neu sydd mewn perygl o ddod yn rhan ohoni.
Drwy ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar ac atal, mae’r glasbrintiau hyn yn argymell dull gweithredu holistaidd sy’n mynd ati i helpu’r unigolyn i adsefydlu a throi oddi wrth fywyd o droseddu, ac i roi cymorth i’r rheini sydd eisoes yn rhan o’r system cyfiawnder troseddol.
Er mai Llywodraeth y DU sydd â’r cyfrifoldeb dros gyfiawnder yng Nghymru, mae llawer o’r gwasanaethau sy’n rhan annatod o helpu pobl i osgoi cyflawni troseddau, neu o helpu troseddwyr i adsefydlu, megis y gwasanaethau iechyd, tai, ac addysg, a’r gwasanaethau cymdeithasol, yn rhai sydd wedi eu datganoli i Gymru.
Mae Comisiwn Thomas wrthi’n edrych yn fanwl ar sut y bydd y system gyfiawnder yn gweithredu yng Nghymru yn y dyfodol. Disgwylir i adroddiad y Comisiwn gael ei gyhoeddi yn yr hydref, a bydd ei gasgliadau’n cael eu hymgorffori yn y gwaith ar y glasbrintiau wrth iddynt ddatblygu.
Dywedodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip:
“Mae’r glasbrintiau rydyn ni’n eu cyhoeddi heddiw yn amserol iawn; byddan nhw’n helpu i fynd i’r afael â llawer o faterion sy’n ymwneud â menywod sy’n troseddu a chyfiawnder ieuenctid, gan gynnwys materion a godwyd yr wythnos ddiwethaf gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, sy’n ymwneud yn benodol â phobl ifanc sy’n troseddu a’r angen i greu cymorth preswyl i fenywod yng Nghymru.
“Yn rhy aml bydd pobl yn dod yn rhan o’r system cyfiawnder troseddol oherwydd eu bod wedi cael cam yn gynharach yn eu bywydau, a’u bod wedi cael profiadau andwyol mewn plentyndod y maen nhw’n dal i geisio ymdopi â nhw ar ôl tyfu’n oedolion.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gydag amrywiaeth o sefydliadau partner er mwyn gweithredu’r glasbrintiau hyn – a bydd cydweithio parhaus yn rhan hanfodol o hynny.”
Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder, Edward Argar:
“Pleser oedd cael cydweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar y mater pwysig hwn a gweld y glasbrintiau hyn yn dwyn ffrwyth heddiw.
“Mae’n bwysig fod gennym, yng nghyd-destun y fframwaith datganoli presennol, ddull gweithredu lleol penodol ar gyfer cyflawni’r gwaith yng Nghymru - dull sy’n darparu cymorth wedi’i deilwra i droseddwyr er mwyn hybu eu hadsefydliad a’u cadw oddi wrth droseddu am byth.
“Bydd y glasbrintiau hyn yn adeiladu ar y gwaith rydyn ni’n ei wneud yn barod i gefnogi troseddwyr yng Nghymru a helpu i dorri’r cylch troseddu.”