Y Siwrne
Sesiynau Cymraeg i Blant
Mae sesiynau Cymraeg i Blant yn gyfle gwych i rieni gymdeithasu a dechrau defnyddio’r Gymraeg gyda’u babi neu blentyn. Edrycha am Cymraeg i Blant ar Facebook am fanylion pellach.
Cylch Ti a Fi
Gelli fynd â dy faban i Gylch Ti a Fi lle mae babanod yn gallu chwarae gyda’i gilydd, gwrando ar storïau a chanu caneuon Cymraeg. Mae dros 500 o gylchoedd mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru a chroeso mawr yno i rieni a gofalwyr Cymraeg a di-Gymraeg.
Cylch Meithrin
Mae Mudiad Meithrin yn trefnu cylchoedd Meithrin ar draws Cymru ar gyfer plant o ddwy oed hyd at ysgol gynradd. Mae’n oed pwysig o ran dysgu iaith ac mae plant yn cael cyfle i ddysgu trwy chwarae.
Uned Feithrin
Mae gan rai ysgolion cynradd unedau meithrin cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog ar gyfer plant tair oed.
Ysgol Gynradd
Mae addysg Gymraeg ar gael ym mhob sir yng Nghymru. Cymraeg yw prif iaith yr iard a’r dosbarth mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg. Bydd dy blentyn yn astudio a chymdeithasu yn Gymraeg. Os nad wyt yn siarad yr iaith, mae nifer o ysgolion yn cynnig cymorth i rieni helpu eu plant gyda’u gwaith cartref.
Ysgol Uwchradd
Mae nifer o ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn perfformio’n dda, gyda rhai ysgolion ymysg y gorau yng Nghymru. Bydd dy blentyn yn astudio’r mwyafrif o bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg neu yn y ddwy iaith.