Mae'r Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) yn cefnogi prosiectau sy'n gwella lleoedd ble mae pobl yn byw.
Dogfennau
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/Crynodeb_byr_o_brosiectau_refeniw_a_chyfalaf_ar_raddfa_fach_0.jpg?itok=cvF5M94P)
Crynodeb byr o brosiectau refeniw a chyfalaf ar raddfa fach , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 231 KB
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/Crynodeb_byr_o_brosiectau_grant_cyfalaf_a_refeniw_cyfun_graddfa_fawr_0.jpg?itok=eyDa3FOT)
Crynodeb byr o brosiectau grant cyfalaf a refeniw cyfun graddfa fawr , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 382 KB
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/Grant_cyfalaf_a_refeniw_cyfunol_mawr__prosiectau_wedi___u_cwblhau_.jpg?itok=yFcX8YYf)
Grant cyfalaf a refeniw cyfunol mawr: prosiectau wedi’u cwblhau , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 371 KB
Manylion
Mae’r ENRaW yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflawni prosiectau sy'n gwneud cysylltiadau clir rhwng gwella gwydnwch ein hadnoddau naturiol a'n llesiant. Mae'r manteision llesiant yn rhychwantu llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Mae'r grant yn cefnogi prosiectau sy'n cynnwys cydweithio a chydweithredu traws-sector wrth eu cyflawni.
Mae’r ENRaW yn darparu cyfuniad o gostau refeniw a chyfalaf sy'n gysylltiedig â phrosiectau o'r fath. Mae gweithgarwch a gyflawnir o dan y grant yn canolbwyntio'n glir ar y tair thema weithredu ganlynol:
- datblygu, adfywio ac ehangu mynediad i seilwaith gwyrdd cynaliadwy
- gwella ansawdd yr amgylchedd adeiledig trefol a gwledig
- datblygu rhwydweithiau ecolegol gwydn
Gwnaethom ariannu cyfanswm o 36 o brosiectau fel rhan o’r cyfnod ariannu cyntaf. Buddsoddwyd dros £14m drwy'r grant. Dyma grynodebau byr o'r prosiectau hyn.