Pobl Ifanc 11-18
Ysgol Uwchradd
Yr ysgolion cynradd Cymraeg sy'n bwydo ysgolion uwchradd Cymraeg lle bydd dy blentyn yn astudio pynciau a sefyll arholiadau yn Gymraeg. Erbyn hyn mae dros 50 o ysgolion uwchradd Cymraeg yng Nghymru ac mae 'na restr lawn ohonyn nhw ar wefan Fy Ysgol Leol.
Gall darpariaeth Gymraeg wahaniaethu o ardal i ardal - o ysgolion cyfrwng Cymraeg llwyr i ysgolion dwyieithog. Cysyllta â dy Gyngor Sir lleol i weld beth yw'r sefyllfa lle wyt ti'n byw. Os nad yw dy ysgol Gymraeg leol o fewn pellter cerdded mae cefnogaeth cludiant ar gael fel arfer.
Am fwy o wybodaeth ac atebion i gwestiynau cyffredin lawrlwytha Lawlyfr Addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru neu cymer olwg ar dudalen Facebook Cymraeg i Blant.
Os wyt am gefnogi dy blentyn gyda'i addysg uwchradd ond yn ansicr yn dy Gymraeg mae cyngor yma i ti.
Mae mwy o wybodaeth yn y Gymraeg am y system addysg gyffredinol yng Nghymru.
Paratoi am Arholiadau
Cymwysterau Cymru yw'r corff sy'n datblygu system gymwysterau newydd - mae ei wefan yn egluro sut bydd y newidiadau yn effeithio ar arholiadau TGAU, Safon Uwch ac eraill.
Cyd-bwyllgor Addysg Cymru neu CBAC yw’r corff sydd wedi bod yn gyfrifol am oruchwylio a gosod arholiadau yng Nghymru. Ar ei wefan mae adnoddau addysgol digidol i helpu i baratoi at arholiadau. Mae'n werth edrych ar y llwyfan dysgu digidol Hwb sydd hefyd yn cynnig adnoddau defnyddiol i ddisgyblion.
Tu allan i’r dosbarth
Ond nid iaith yr ysgol yn unig yw Cymraeg. Mae'n bwysig siarad yr iaith y tu allan i'r dosbarth ac mae sawl ffordd i blant a phobl ifanc wneud hynny.
Mae’r Urdd yn trefnu pob math o weithgareddau i bobl ifanc, gan gynnwys chwaraeon a drama. Lawrlwytha ap Fy Ardal i weld be' sy'n digwydd yn dy filltir sgwâr.
Mannau arall i edrych am weithgareddau Cymraeg yw gwefannau dy Fenter Iaith a dy Gyngor Sir lleol.
Parhau gyda addysg cyfrwng Cymraeg
Beth yw pwysigrwydd parhau dilyniant addysg dy blentyn drwy addysg cyfrwng Cymraeg?
• Mae dilyniant ieithyddol yn gwneud y newid o’r cynradd i’r uwchradd yn llawer haws I dy blentyn.
• Mae ymchwil yn dangos bod y sgiliau iaith gwerthfawr a ddysgwyd yn yr ysgol gynradd yn cael eu colli’n gyflym os nad ydy’n parhau gyda’r addysg yn yr un Iaith.
• Mae sgiliau dwyieithog plant yn datblygu orau wrth gael eu defnyddio bob dydd, ac mae addysg Gymraeg neu ddwyieithog yn rhoi cyfle beunyddiol i blentyn ddatblygu ei sgiliau gan ddod yn fwy rhugl a hyderus.
Am fwy o wybodaeth ewch i LLYW.CYMRU.