Mae ymgyrch recriwtio nyrsys Llywodraeth Cymru yn defnyddio nyrs gwrywaidd fel prif wyneb yr ymgyrch.
Heddiw (dydd Sul 19 Mai), wrth lansio cam diweddaraf yr ymgyrch 'Hyfforddi, Gweithio, Byw', dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, ei fod yn gobeithio y byddai'r ymgyrch yn annog mwy o ddynion i ystyried nyrsio fel proffesiwn, yn ogystal â recriwtio rhagor o nyrsys i weithio yng Nghymru.
Dim ond oddeutu 1 o bob 10 o nyrsys yng Nghymru sy'n ddynion, ac mae'r ffigur hwn heb newid ers amser maith, gyda stori ddigon tebyg mewn rhannau eraill o'r DU. O'r 32,927 o bobl sy'n gweithio fel nyrsys, bydwragedd, ac ymwelwyr iechyd yng Nghymru, dim ond ychydig o dan 4,000 sy'n ddynion.
Richard Desir, a gafodd ei eni ym Manceinion, sydd wedi ei ddewis fel wyneb yr ymgyrch hon sydd bellach yn ei thrydedd flwyddyn. Symudodd Richard i Gymru gyda'i deulu yn 2007, ac mae'n gweithio ar hyn o bryd fel Uwch-nyrs Trawsnewid y Gweithlu yng Ngwent. Mae symud yma wedi ei helpu i ddatblygu ei yrfa a sicrhau ffordd o fyw gytbwys iddo ef a'i deulu ifanc.
Mae Richard yn egluro:
“Ar ôl cymhwyso fel Nyrs Gofrestredig yn 1989, bues yn gweithio mewn amryw o leoliadau clinigol yng Ngogledd Lloegr. Yna, cwrddais â'm gwraig sy'n dod o Gymru ac a oedd yn awyddus iawn i fagu ei theulu yng Nghymru. Roedd symud yma'n gyfle i barhau â'n gyrfaoedd ac yn teimlo fel y peth naturiol i'w wneud. Mae byw yng Nghymru yn wych o safbwynt gyrfa a theulu. Os ydych am roi cynnig ar rywbeth newydd, dewch i weld beth sydd gan Gymru i'w gynnig. Dw i'n addo na fyddwch yn ’difaru.”
Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn gobeithio y bydd yr ymgyrch yn parhau i gynyddu nifer y nyrsys sy'n gweithio yng Nghymru:
“Mae'r ymgyrch hon yn berthnasol i lawer iawn o wahanol bobl. Rydyn ni'n awyddus i ddenu pobl sydd wedi bod yn nyrsio'n broffesiynol ers blynyddoedd, yn ogystal â'r rheini sy'n newydd i'r proffesiwn. Hefyd, rydyn ni'n awyddus i ddenu pobl sydd wedi gadael y proffesiwn eisoes, ond sy'n fodlon ystyried dychwelyd iddo i ymarfer yma yng Nghymru. Mae gan Gymru lawer iawn i'w gynnig o ran cyfleusterau a ffordd o fyw, a dw i'n awyddus i ddefnyddio'r ymgyrch flaengar hon i sicrhau bod gennym y gweithlu gofal iechyd y mae ei angen, heddiw ac yn y dyfodol.
“Dw i hefyd yn gobeithio y bydd esiampl Richard yn annog mwy o ddynion i ystyried nyrsio fel proffesiwn. Rydyn ni am i gynifer o bobl â phosibl weld nyrsio fel gyrfa werth chweil.”
Mae 'Hyfforddi, Gweithio, Byw' yn helpu i gyflawni strategaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol dymor hir Llywodraeth Cymru, sef Cymru Iachach. Bydd y Gweinidog yn cael cyfle i gwrdd â llawer o nyrsys proffesiynol o Gymru, pan fydd yn mynychu Cyngres flynyddol y Coleg Nyrsio Brenhinol yn Lerpwl ddydd Llun 20 Mai.