Heddiw (16 Mai), lansiwyd yr Adroddiad Blynyddol cyntaf erioed ar Gyfamod y Lluoedd Arfog, sy'n seiliedig ar gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog.
Mae'r Cyfamod yn cydnabod y gall rhai cyn-filwyr a'r rheini sy'n gadael y gwasanaeth wynebu heriau pan fyddant yn dychwelyd i fywyd pob dydd. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi manylion am y cynnydd a wnaed yng Nghymru i ddarparu'r gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:
"Rwy'n croesawu'r Adroddiad Blynyddol cyntaf hwn ar Gyfamod y Lluoedd Arfog, sy'n dangos sut y gall arferion cydweithio cadarnhaol arwain at ganlyniadau ardderchog. Rydyn ni wedi gwneud cynnydd da, ond yn sylweddoli bod mwy i'w wneud, a byddwn yn mynd ati i wneud hynny."
Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:
"Gall cymuned y Lluoedd Arfog wynebu nifer o heriau personol yn sgil natur eu gwaith. Wrth ddychwelyd i fywyd fel sifiliaid, gall y cyfoeth o sgiliau a enillwyd yn ystod eu gwasanaeth fod yn werthfawr i gyflogwyr posibl ac i'r cymunedau lle maent yn byw. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r sector elusennol i ddarparu'r cymorth sydd ei angen arnynt yn ystod y cyfnod pontio a thu hwnt."
Dywedodd Fiona Jenkins o Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog:
"Mae'r Grŵp Arbenigol yn croesawu'r Adroddiad Blynyddol ar Gyfamod y Lluoedd Arfog. Mae hyn yn dangos y cynnydd a wnaed, yn ogystal â nodi bylchau mewn gwasanaethau ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog.
"Rydyn ni'n croesawu'r cydweithio sydd wedi digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid, ac yn edrych ymlaen at ragor o lwyddiant yn y dyfodol."