Eich helpu chi i berchen ar gartref
Rydyn ni'n gwybod y byddai llawer o bobl yng Nghymru'n hoffi berchen ar eu cartref eu hunain, ond nad ydynt yn gallu fforddio gwneud hynny. Bydd ein cynlluniau ni'n helpu mwy o bobl yng Nghymru i berchen ar eu cartref eu hunain.
Pa gynllun sy'n iawn i mi?
Bydd ateb ein cwestiynau yn ffordd syml i'ch helpu i ddod o hyd i'r cynllun(iau) y gallwch chi fod yn gymwys i fanteisio arnyn nhw.
Gallwch weld y meini prawf sy'n rhaid eu bodloni i fod yn gymwys yn y canllawiau ar gyfer pob cynllun.
A allwch chi fforddio prynu cartref?
Mae'n bosibl mai prynu cartref yw'r buddsoddiad unigol mwyaf y byddwch erioed yn ei wneud. Mae'n gyfnod cyffrous, ond mae llawer o bethau i'w hystyried. Felly, bydd angen ichi neilltuo amser i edrych ar y costau.
Gallwch ddod o hyd i gyngor ar gynilo am flaendal, cael morgais, a llawer mwy ar wefan Helpwr Arian. Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell ar-lein hyd yn oed, i amcangyfrif faint y gallai ad-daliadau eich morgais fod.
I gael gwybod mwy am y broses, y prif gamau, a'r ffioedd y gallwch eu disgwyl, argymhellwn eich bod yn edrych ar eu llinell amser ar gyfer prynu cartref yn y lle cyntaf.