Heddiw, cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod Cronfa Her yr Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru wedi cael ei dyblu i £3 miliwn a’i bod ar agor yn awr ar gyfer ceisiadau.
Nod y Gronfa yw datblygu economi ranbarthol Cymru, er mwyn sicrhau bod ffyniant yn cael ei rannu’n fwy cyfartal ar draws gwahanol ardaloedd o Gymru.
Bydd yn cynnig cymorth o hyd at £100,000 ar gyfer prosiectau arbrofol i dreialu pa ffordd sydd orau i Lywodraeth Cymru helpu i feithrin a thyfu sylfeini ein heconomïau lleol. Bydd hefyd yn cynnig cyfle i weld pa ddull sy’n gweithio orau, a bydd y gwersi a ddysgwyd yn cael eu rhannu ledled Cymru wedi hynny.
Yr economi sylfaenol sy’n darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau sylfaenol hynny y mae pawb yn eu defnyddio o ddydd i ddydd. Mae gwasanaethau gofal ac iechyd, bwyd, tai, ynni, adeiladu, twristiaeth a manwerthwyr ar y stryd fawr i gyd yn rhan o’r economi sylfaenol.
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Mae llawer o’n cymunedau rhanbarthol yn dweud wrthym fod y ffordd y mae’r economi wedi datblygu yn teimlo’n anghymesur iddyn nhw ac maen nhw’n teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl.
“Pan gefais i’r swydd fel Prif Weinidog, gwnes i ymrwymiad i fynd i’r afael â hyn. Mae’n bwysig yn y drafodaeth ynglŷn ag effaith Brexit na fyddwn ni’n colli golwg ar yr hyn a wnaeth i lawer o bobl o Gymru bleidleisio dros ymadael â’r UE a pha gamau sydd angen eu cymryd i fynd i’r afael â’u pryderon nhw.
“Mae’r Economi Sylfaenol yn cynnwys y nwyddau a’r gwasanaethau hynny yn ein cymunedau rydyn ni’n eu defnyddio bob dydd. Drwy ganolbwyntio ar gefnogi’r rhannau hyn o’r economi gallwn ni helpu i gadw arian mewn cymunedau, creu gwell amodau cyflogaeth a chynyddu ffyniant ar draws Cymru. Drwy ddyblu’r Gronfa sydd ar gael, rydyn ni’n disgwyl gweld y buddion hyn yn dwyn ffrwyth yn gyflymach ac yn cael eu mwynhau’n fwy eang.”
Nid rhannau bach o’r economi yw’r diwydiannau a’r sefydliadau sylfaenol hyn. Yn ôl amcangyfrifon, gallwn briodoli pedwar o bob deg swydd a £1 o bob £3 sy’n cael ei gwario gennym i’r diwydiannau a’r sefydliadau hyn. Mewn rhai ardaloedd o Gymru, yr ‘economi sylfaenol’ hon yw’r economi.
Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:
“Nod y Gronfa hon yw grymuso busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i roi cynnig ar ddulliau newydd o ymateb i’r heriau a wynebir gan gyflogwyr a gweithwyr yn yr economi sylfaenol neu gan y bobl sy’n dibynnu ar ei gwasanaethau.
“Dw i am godi proffil yr economi sylfaenol ac ysgogi trafodaeth a dysgu am yr hyn sy’n gweithio er mwyn inni gynyddu arferion da a’u lledaenu er mwyn i bob cymuned yng Nghymru elwa. Magu cyfoeth a meithrin llesiant yw’r nod yn y pen draw, yn arbennig yn rhai o’n cymunedau llai breintiedig.”
Mae’r heriau sy’n ein hwynebu yn cynnwys recriwtio a chadw aelodau o’r gweithlu, a meithrin eu sgiliau, sefydlu strwythurau cyflenwi a chynllunio gwasanaethau, dod o hyd i ffyrdd o hybu effaith prynu’n lleol, a meddwl am ffyrdd o gynnwys dinasyddion yn y broses o gynllunio gwasanaethau.
Bydd modd gwneud ceisiadau i’r Gronfa am gyfnod o wyth wythnos o 14 Mawrth i 12 Gorffennaf.
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais fynegi ei ddiddordeb drwy ffonio 0300 060 3000
Wrth gofrestru, bydd modd i bobl fynd i gymhorthfa a gynhelir ym mis Mehefin gyda gweinyddwyr y Gronfa i drafod eu syniad ar gyfer prosiectau.
Mae manylion y Gronfa a’r cymorthfeydd i’w gweld ar y wefan.