Sut ydym am wella'r nwyddau a'r gwasanaethau sylfaenol y mae pawb yn dibynnu arnyn nhw.
Cynnwys
Mae'r economi sylfaenol yn darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bawb bob dydd. Pethau fel:
- y gwasanaethau gofal ac iechyd
- bwyd
- tai
- ynni a chyfleustodau
- gwaith adeiladu
- trafnidiaeth
- manwerthwyr y Stryd Fawr
- twristiaeth
Pam mae'r economi sylfaenol yn bwysig
Cefnogi'r economi sylfaenol yw un o brif ymrwymiadau Cenhadaeth Llywodraeth Cymru i Gryfhau ac Ailadeiladu'r Economi.
Mae'r economi sylfaenol yn gyfrifol am 60% o'r holl fusnesau sydd â'u pencadlys yng Nghymru, 51% o gyflogeion busnesau cofrestredig VAT, a 47% o'r trosiant cyffredinol yng Nghymru.
Mae'n hanfodol arloesi yn yr economi sylfaenol er mwyn mynd i'r afael â heriau fel:
- argyfwng yr hinsawdd
- creu swyddi
- datblygu sgiliau'r dyfodol
- ehangu trafnidiaeth
- cyflwyno technoleg ddigidol
- creu system fwyd wydn
Rydym yn gweithio gyda chyrff a sefydliadau cyhoeddus a phreifat lleol i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol hyn.
Yr hyn yr ydym yn anelu i'w gyflawni
Ein nod yw:
- cryfhau rhannau sylfaenol yr economi, iddyn nhw allu gwrthsefyll ergydion allanol annisgwyl.
- helpu busnesau Cymru i fod yn fwy cynhyrchiol trwy fabwysiadu egwyddorion Gwaith Teg a chreu swyddi sy'n gofyn am lefel uchel o sgil.
- gwella amodau gwaith yn yr economi sylfaenol, gan sicrhau gwaith teg, gwella sgiliau a sicrhau dilyniant gyrfa.
- cynnal busnesau lleol a'u helpu i dyfu, a chylchredeg yr elw a'r cyfoeth o fewn cymunedau Cymru.
- gwella mynediad at nwyddau a gwasanaethau'r economi sylfaenol, gan wella lles pobl ledled Cymru.
Ein hamcanion ar gyfer yr economi sylfaenol
Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud y canlynol:
- cefnogi cyfleoedd ar gyfer darparu mwy o swyddi, swyddi gwell a swyddi gwyrddach sy'n hyrwyddo gwaith teg, gan gynnwys cyflogau da, cynrychiolaeth, sicrwydd a chyfleoedd am ddyrchafiad.
- ei gwneud yn haws 'byw ar aelwyd’ drwy godi cyflogau, lleihau cost hanfodion a darparu gwasanaethau sylfaenol o ansawdd uchel i wella iechyd a llesiant.
- adeiladu cadwyni cyflenwi lleol i gadw pobl, sgiliau a chyfoeth yng Nghymru, gan gynyddu'r defnydd o gynnyrch a wnaed yng Nghymru i adeiladu sylfaen gref a chynhyrchiol o gyflenwyr.
- helpu i gyrraedd Sero Net drwy ynni gwyrdd, glân ac adnewyddadwy sy'n hyrwyddo cynhyrchu a defnyddio adnoddau ecogyfeillgar.
- annog arloesedd ac arbrofi cydweithredol i wella nwyddau a gwasanaethau'r Economi Sylfaenol, yn enwedig lle maen nhw'n adeiladu seilwaith cymdeithasol gwydn, megis drwy brosiectau sy'n eiddo i'r gymuned.
Mae cysylltiad agos rhyngddi â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.
Astudiaethau achos
- Woosnam Dairies: daeth dyn llaeth lleol yn brif gyflenwr llaeth i ysgol yng Nghymru gyda chymorth Cyngor Caerffili.
- Awen Cultural Centre a B-Leaf: tyfu cynnyrch lleol yn gynaliadwy tra'n creu swyddi i oedolion ag anableddau dysgu.
- NappiCycle: troi gwastraff yn rhywbeth gwerthfawr drwy ddefnyddio ffibrau wedi'u hailgylchu o Ganolfan Wyliau Bluestone i adeiladu ffyrdd a phalmentydd.
- Can Cook: mynd i'r afael â thlodi bwyd drwy ddarparu prydau bwyd ffres, maethlon, gyda chymorth Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru.
- Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre: hyrwyddo ffynonellau bwyd cynaliadwy o fewn y GIG i wella iechyd a lles gan gefnogi sector bwyd cydnerth yng Nghymru.
- Simply Do Ideas: defnyddio arloesedd digidol i helpu sefydliadau'r sector cyhoeddus oresgyn rhwystrau i fanteisio ar y syniadau gorau.
- Bwydydd Castell Howell: cydweithio i ysgogi newid cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd yn y gadwyn gyflenwi.
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili: yn arwain y gwaith o newid strategaethau caffael bwyd, a chydnabod eu cyfraniad at gadwyni cyflenwi lleol.
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru: diweddaru strategaethau caffael bwyd i gynyddu gwariant y GIG o fewn yr Economi Sylfaenol trwy ddefnyddio mwy o gyflenwyr lleol.
- Harlech Foods: hyrwyddo gwerth cynnyrch lleol drwy gyflenwi bwyd o Gymru i'r sector cyhoeddus.
Rhagor o adnoddau
- Modiwl Dysgu Ar-lein yr Economi Sylfaenol
- Yr Economi Sylfaenol – Cynnal Cymru: yn cynnwys astudiaethau achos sy'n dangos yr Economi Sylfaenol ac arloesedd ar waith, gan gynnwys enghreifftiau o Fwrdd Iechyd Felindre, Castell Howell a Can Cook
- Online FE knowledge repository (CEIC)
- Circular Economy Innovation Communities (CEIC) - YouTube
- Prynu Bwyd Addas i'r Dyfodol – Adnodd Caffael Bwyd ar-lein - Meithrin Cynaliadwyedd wrth gaffael bwyd yn y sector cyhoeddus i greu Cymru iachach, a mwy llewyrchus
- Prynu Bwyd Addas i'r Dyfodol – Cyflwyniad Fideo, Yr Athro Kevin Morgan
- Pŵer Prynu’r Plât Cyhoeddus: Canllaw cyfreithiol i fewnosod cynaliadwyedd wrth gaffael bwyd i greu Cymru iachach, fwy cyfoethog
- Gwerthoedd am Arian: Caffael Bwyd yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru (Yr Athro Kevin Morgan)
- Prynu Bwyd Addas i'r Dyfodol – Hwb Adnoddau
- Economi Llesiant – Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru
- Caffael yn y sector cyhoeddus | Is-bwnc | LLYW. CYMRU
- Cyngor a Chymorth i Fusnesau | Busnes Cymru (llyw.cymru)
- CLES - The national organisation for local economies