Amcangyfrifon ar gyfer chwarter 3, Hydref i Ragfyr 2018.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Treth Gwarediadau Tirlenwi
Mae’r datganiad ystadegol hwn yn cyflwyno ystadegau swyddogol ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.
Mae’r amcangyfrifon cychwynnol hyn ar gyfer Chwarter 3 yn rhai dros dro. Byddwn yn diwygio’r amcangyfrifon hyn pan fyddwn yn cyhoeddi’r ystadegau nesaf.
Pwyntiau allweddol
O ran deunydd a waredwyd fel gwastraff i safleoedd tirlenwi rhwng Hydref i Ragfyr:
- Bu 367 mil tunnell o warediadau awdurdodedig, y lefel debyg i'r ddau chwarter blaenorol.
- Yr oedd y gwarediadau hyn yn golygu bod £10.1 miliwn o dreth yn ddyledus, lleihad o 26 y cant ers y chwarter blaenorol. Y prif reswm am hyn oedd lleihad mewn gwarediadau ar y gyfradd safonol gan nifer bach o weithredwyr safleoedd tirlenwi.
- Roedd y pum gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth yn cyfrif am ryw dri chwarter yr holl dreth yn ddyledus.
- Gwaredwyd 111 mil tunnell o ddeunydd a dderbyniodd ryddhad neu ddisgownt, gan olygu rhyddhad treth o £0.3 miliwn.
- Yn ystod y cyfnod a gwmpesir gan y datganiad hwn, yr oedd 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cwmpasu 23 safle.
Adroddiadau
Ystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi: Hydref i Rhagfyr 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Dave Jones
Rhif ffôn: 03000 254 729
E-bost: data@wra.gov.wales
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 03000 254 770
E-bost: newyddion@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.