Neidio i'r prif gynnwy

Nod strategaeth ryngwladol newydd Llywodraeth Cymru fydd cyflwyno Cymru i'r byd fel 'Cenedl Greadigol y Genhedlaeth Nesaf', bydd Eluned Morgan, y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol yn dweud heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod araith i nodi 20 mlynedd ers datganoli a chan mlwyddiant Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, yr adran brifysgol gyntaf yn y byd i gael ei neilltuo i astudio materion rhyngwladol, bydd y Gweinidog yn sôn mwy am y strategaeth newydd. Bydd yn egluro sut mae'r strategaeth yn cyflwyno Cymru fel "gwlad sy'n edrych tuag at y dyfodol, sy'n ddeinamig ac yn uchelgeisiol a'n prif gryfder yw ein pobl a'n diddordeb yn eu dyfodol."

Bydd y Gweinidog yn dweud bod chwaraeon, y Gymraeg, treftadaeth ddiwylliannol, ein hagwedd at gydraddoldeb ac amrywiaeth, rhagoriaeth ac arbenigedd, cynaliadwyedd, yr amgylchedd ac ailgylchu – diddordeb Cymru mewn materion sy'n cael effaith fyd-eang – i gyd yn hanfodol i siapio ei hunaniaeth genedlaethol, "a'r hunaniaeth gadarnhaol hon rydyn ni am ei chyflwyno i'r byd".

Bydd Cymru yn cael ei chyflwyno fel "gwlad a chanddi werthoedd", sy'n cynnwys tegwch, cydgefnogaeth a diddordeb yn y dyfodol. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i amddiffyn ein hymrwymiad i "ddinasyddiaeth fyd-eang gyfrifol".

Bydd y strategaeth yn canolbwyntio ar:

  • Feithrin ffyniant Cymru drwy gynyddu nifer y busnesau Cymreig sy'n allforio'n rhyngwladol a byddwn yn parhau i ddenu buddsoddiad tramor o ansawdd uchel. Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Cymru yn cael ei chydnabod fel gwlad sydd ar flaen y gad yn y byd mewn amryw o sectorau allweddol fel seiberddiogelwch
  • Cadarnhau a meithrin cysylltiadau â'r Undeb Ewropeaidd (UE) ac Aelod-wladwriaethau'r UE a datblygu perthynas ddyfnach, fwy ystyrlon â phartneriaid Ewropeaidd, a sefydliadau fel Sefydliad Iechyd y Byd, sy'n rhannu diddordebau ac amcanion polisi cyffredin er mwyn cynyddu ein dylanwad ar y llwyfan Ewropeaidd, ond hefyd i wireddu ein nodau polisi gartref
  • Pwyso i gael cymryd cymaint o ran â phosibl yn y negodiadau ar berthynas y DU â'r UE yn y dyfodol a phartneriaid masnachu eraill er mwyn sicrhau bod buddiannau Cymru'n cael eu diogelu
  • Defnyddio addysg i wella ein dealltwriaeth o'r byd yng Nghymru, a gweithio gyda sefydliadau addysg i gynyddu nifer y myfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru
  • Hyrwyddo Cymru fel cenedl groesawgar, gan ddathlu'r cymunedau sydd wedi dewis ymgartrefu yng Nghymru yn ogystal â hyrwyddo Cymru fel Cenedl sy'n Cynnig Lloches
  • Hyrwyddo cyfrifoldebau byd-eang Cymru drwy'r rhaglen Cymru o Blaid Affrica a dangos ein hagwedd tuag at ddinasyddiaeth fyd-eang
  • Cefnogi economi sylfaen Cymru, gan gynnwys dangos ein hasedau naturiol drwy gynyddu twristiaeth a'n hagenda ar gyfer gofal iechyd. 
  • Defnyddio'r Gymraeg a dwyieithrwydd i hyrwyddo Cymru ymhellach.
  • Elwa ar sefydliadau a phartneriaid allweddol i’n helpu i wireddu a chynllunio ein cenhadaeth gan gynnwys y Cymry ar wasgar, Llywodraeth y DU a sefydliadau diwylliannol.  

Wrth siarad cyn yr araith, dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol:

“Mae Brexit wedi newid popeth. Bydd ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn newid cyfeiriad sylfaenol i'r Deyrnas Unedig a bydd Cymru yn wynebu llawer o heriau.

“Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi cynnig ffenestr ar y byd i Gymru ers hanner canrif. Er gwaetha Brexit, bydd Cymru'n dal i fod yn genedl Ewropeaidd. Mae'n fater o fasnachu yn bendant. Ond mae hefyd yn fater o ddiwylliant a gwerthoedd. 

“Rhaid inni feithrin perthnasoedd sydd wedi'u sefydlu eisoes ond hefyd meithrin rhai newydd â chenhedloedd a busnesau. Mae Cymru wedi bod yn wlad sy'n edrych tuag allan bob amser. Allwn ni ddim fforddio troi ein cefnau ar y byd, a fyddwn ni ddim yn gwneud hynny. Mae'n rhaid inni werthu Cymru i'r byd yn fwy nag erioed. 

"Rydyn ni'n sefyll ar drothwy cyfnod newydd yn ein hanes. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn rhoi'r camau yn eu lle sydd eu hangen arnom i sicrhau na fydd Cymru ar ei cholled yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE.
  
“Mewn araith ym Mhrifysgol Aberystwyth heno, byddaf yn nodi fy nyheadau ar gyfer sut y dylem gyflwyno Cymru i'r byd a sut y byddaf i'n mynd i'r afael â'r heriau hyn.

“Fel rhan o'r gwaith o ddatblygu strategaeth ryngwladol newydd, byddwn yn profi'r syniad o gyflwyno Cymru i'r byd fel 'Cenedl Greadigol y Genhedlaeth Nesaf'. Dw i am i'r byd ein gweld ni fel gwlad sy'n edrych tuag at y dyfodol – gwlad ddeinamig ac uchelgeisiol a'n prif gryfder yw ein pobl a'n diddordeb yn eu dyfodol."