Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i gynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg ac iaith Gymraeg drwy annog mwy o ddysgwyr i astudio Cymraeg fel pwnc Safon Uwch.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod Cymraeg yn bwnc sydd â blaenoriaeth uchel iddo, gan fod y galw am addysg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn cynyddu ac y bydd Cymraeg fel pwnc yn fwy blaenllaw yn y cwricwlwm newydd. Y nod yw cynyddu nifer y myfyrwyr sy’n astudio’r Gymraeg fel pwnc Safon Uwch i fwy na mil erbyn 2021, er mwyn cynyddu nifer y myfyrwyr sy’n mynd ymlaen i astudio’r Gymraeg yn y brifysgol ac yn hyfforddi i fod yn athrawon.
Mae targedau hefyd i gael 200 o athrawon cynradd cyfrwng Cymraeg ychwanegol a 400 o athrawon ysgol uwchradd ychwanegol, ynghyd â 100 yn fwy o athrawon Cymraeg, o’i gymharu â 2016. Bydd y cynnydd yn nifer y dysgwyr sy’n astudio Cymraeg Safon Uwch yn debygol o gynyddu’r nifer sydd yn mynd ymlaen i fod yn athrawon Cymraeg neu i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd camau penodol yn targedu disgyblion ysgol uwchradd, rhieni/gofalwyr ac athrawon drwy hybu cyfleoedd gyrfa i fyfyrwyr Cymraeg Safon Uwch, gan greu profiadau cadarnhaol i fyfyrwyr a gwella’r cymorth i fyfyrwyr ac athrawon. Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £145,000 yn 2019-20 i gefnogi’r amcanion hyn.
Bydd gan Lywodraeth Cymru, ar y cyd ag ysgolion, colegau a sefydliadau fel yr Urdd a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol rôl allweddol i’w chwarae.
Bydd y gweithgareddau’n cyd-fynd â Chynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory ar gyfer athrawon dan hyfforddiant sy’n dymuno addysgu Cymraeg neu trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y cynllun ar gael, eleni eto, i athrawon dan hyfforddiant ym mis Medi, i ategu’r nod a geir yn Cymraeg 2050, sef cynyddu’r nifer o athrawon sy’n addysgu Cymraeg neu’n addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Eleni gall myfyrwyr Addysg Gychwynnol Athrawon sy’n hyfforddi i addysgu Cymraeg fod yn gymwys am gymhelliant o hyd at £25,000.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:
“Mae sicrhau bod pob dysgwr yn gallu defnyddio’r Gymraeg erbyn cyrraedd yr oedran i adael ysgol yn ymrwymiad hirdymor, allweddol i Lywodraeth Cymru. Er mwyn gwireddu hyn, mae’n rhaid cael cyflenwad digonol o athrawon cyfrwng Cymraeg.
“Rydym eisiau hybu manteision astudio Cymraeg Safon Uwch a chynyddu’r gefnogaeth i ddysgwyr ac athrawon, gan ein helpu i gyflawni’r nod o gynyddu nifer yr athrawon er mwyn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”
Dywedodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr Coleg Cenedlaethol Cymru:
“Mae’r Coleg Cymraeg wedi cydweithio gydag adrannau Cymraeg prifysgolion Cymru ers nifer o flynyddoedd ac yn ddiweddar wedi rhoi mwy o ffocws ar hyrwyddo’r pwnc mewn ysgolion er mwyn gwella’r dilyniant o TGAU i Safon Uwch. Mae hyn ar ben ymdrechion prifysgolion unigol i hyrwyddo eu darpariaeth nhw.
“Rydym yn falch iawn o’r cyfle i gydweithio gydag ystod eang o bartneriaid ar y cynllun hwn i hyrwyddo manteision astudio’r Gymraeg ac i sicrhau bod profiad y dysgwyr o astudio’r maes yn gadarnhaol – ar lefel academaidd a chymdeithasol. Yn ogystal, mae angen darparu cefnogaeth i athrawon y Gymraeg ac i sicrhau cynaliadwyedd y pwnc yn ein hysgolion.
“Mae gan y sawl sy’n astudio’r Gymraeg gymaint i’w gynnig yn y byd gwaith, gan gynnwys y proffesiwn addysgu. Drwy’r cynllun hwn, mae’r holl bartneriaid yn ymrwymo i godi ymwybyddiaeth o’r mwynhad, y profiad a’r cyfleoedd unigryw ddaw yn sgil astudio’r Gymraeg”.
Mae rhai clipiau fideo ar gael isod o fyfyrwyr sydd wedi elwa ar astudio Cymraeg Safon fel pwnc Uwch: