Os oes angen ichi ategu sylfeini eich adeilad yn rhannol neu'n gyfan gwbl, bydd rheoliadau adeiladu'n berthnasol. Mae'r rheoliadau yn diffinio'n benodol bod gwaith o'r fath yn 'waith adeiladu', a bydd yn rhaid rhoi camau priodol ar waith i sicrhau bod y gwaith ategu yn sefydlogi'r adeilad ac yn ei atal rhag symud.
Bydd angen rhoi sylw penodol i unrhyw garthffosydd a draeniau sydd wrth ymyl y gwaith.
Mae gwaith ategu yn ddull adeiladu sy'n golygu bod dyfnder sylfeini adeilad yn cael ei gynyddu. Caiff y pridd sydd dan y sylfaen bresennol ei gloddio, ac yn raddol rhoddir deunydd sylfaen yn ei le, sef concrit fel rheol.
Wrth wneud gwaith ategu, rhaid rhoi sylw manwl i ddyluniad, methodoleg a gweithdrefnau diogelwch. Os na chaiff y math hwn o waith ei wneud yn gywir, gall achosi perygl go iawn a gallai'r cartref presennol ddisgyn neu gael ei ddifrodi.
Dyma'r rhesymau cyffredinol dros ategu sylfeini:
- Mae sylfeini presennol yr adeilad wedi symud – caiff hynny ei achosi gan bridd gwael neu newidiadau i amodau'r pridd (e.e. mae'r pridd wedi ymsuddo).
- Penderfynwyd ychwanegu llawr arall at yr adeilad, uwchlaw neu islaw lefel y ddaear, ac nid yw dyfnder y sylfeini presennol yn ddigonol i gynnal yr adeilad wedi iddo gael ei addasu, neu'i lwyth (ei bwysau).
Rhaid cynllunio a gweithredu'n ofalus wrth wneud gwaith ategu. Os ydych yn bwriadu ategu sylfaen bresennol, bydd angen cymeradwyaeth dan y rheoliadau adeiladu fel rheol. Bydd cael cymeradwyaeth o'r fath fel arfer yn golygu paratoi dyluniad strwythurol o'r gwaith ategu, gan gynnwys y broses y bwriedir ei chyflawni yn ystod y gwaith adeiladu. Un o'r camau cyntaf yn gyffredinol, cyn dechrau o ddifrif ar y gwaith, fydd cloddio twll peilot wrth ymyl y sylfeini presennol er mwyn i beiriannydd adeiladu neu syrfëwr asesu amgylchiadau'r achos.
Dulliau ac archwiliadau
Bydd yr union ddull y dylid ei ddefnyddio ar gyfer gwaith ategu'n dibynnu ar amgylchiadau niferus yr achos. Er mwyn osgoi tanseilio'r sylfeini presennol yn ormodol, gan achosi rhagor o niwed i'r strwythur uwchben, dylai'r cloddio ar gyfer y gwaith ategu gael ei wneud yn unol â chyfarwyddiadau a manylion peiriannydd adeiladu.
Os na chaiff y math hwn o waith ei wneud yn gywir, gall achosi perygl go iawn a gallai'r cartref presennol ddisgyn neu gael ei ddifrodi. Felly, fe'ch cynghorir i gyflogi pobl brofiadol ym maes dylunio (er enghraifft, dylunydd a pheiriannydd adeiladu profiadol) ac adeiladu (er enghraifft, rhywun â phrofiad o waith ategu a gwaith adeiladu cyffredinol) i gyflawni'r prosiect.
Un dull cyffredin yw i waith ategu gael ei wneud un darn ar y tro. Yn dibynnu ar hyd y sylfaen y mae angen ei hategu, gallai fod modd gweithio ar fwy nag un darn ar y tro – cyhyd â'u bod yn ddigon pell oddi wrth ei gilydd.
Fel rheol, bydd y gwaith cloddio ar gyfer pob darn y mae angen ei ategu yn cael ei archwilio gan beiriannydd dylunio a syrfëwr rheoli adeiladu cyn ei goncritio. Ni fydd rhoi concrit yn y lle a gloddiwyd yn gwarantu y bydd y gwaith ategu'n cynnal y sylfaen yn gadarn, oherwydd gallai fod gwagleoedd rhwng y ddau o hyd. Fel rheol, felly, bydd yn angenrheidiol gwasgu tywod a sment i mewn i'r gwagle i sicrhau bod y sylfaen yn cael ei chynnal. Gallai'r peiriannydd a'r syrfëwr rheoli adeiladu archwilio hynny hefyd.
Bydd amseriad pob cam a manyleb y deunyddiau a ddefnyddir yn amrywio o'r naill achos i'r llall, ac fel rheol dylent gael eu pennu gan ddyluniad peiriannydd adeiladu.