Yn ôl canfyddiadau cychwynnol Baromedr Busnesau Twristiaeth Cymru, a gyhoeddwyd heddiw, llwyddodd 85% o'r busnesau twristiaeth a holwyd ar gyfer yr arolwg naill ai i sicrhau cynnydd yn nifer yr ymwelwyr dros y Pasg neu i gynnal y niferoedd hynny.
Roedd y Pasg hwyr yn hwb i'r diwydiant, a llwyddodd traean o’r rheini i ddenu mwy o fusnes, gan ddweud bod y Pasg hwyr wedi cael effaith gadarnhaol o gymharu â Phasg 2018, a oedd yn gynharach. Ymhlith y rheini a welodd gynnydd yn nifer yr ymwelwyr, dywedodd 39% mai 'tywydd gwell' oedd y rheswm mwyaf cyffredin a dywedodd y mwyafrif llethol o’r busnesau (85%) eu bod yn ffyddiog am yr haf.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:
"Mae'r ffaith bod y diwydiant yn dweud iddo gael Pasg da a'i fod yn llawn hyder am yr haf yn newyddion gwych, wrth gwrs. Ac wrth i bethau'n argoeli'n dda i’r diwydiant, rydyn ni wrthi'n blaengynllunio ac yn ystyried sut gallwn ni wella hyd yn oed mwy.
"Yn Uwchgynhadledd Twristiaeth Cymru, lansiais i drafodaeth am yr hyn a fydd yn dod nesa' i dwristiaeth yng Nghymru, wrth i'r strategaeth bresennol, 'Partneriaeth ar gyfer Twf' dynnu at ei therfyn yn 2020. Er mwyn gwthio'r cwch i'r dŵr, rydyn ni'n gofyn 10 cwestiwn pwysig a fydd yn helpu i ddatblygu'n blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr. Rydyn ni’n awyddus i glywed barn unrhyw un sydd â diddordeb, p’un a ydych chi’n ymwelydd, yn rhan o'r diwydiant twristiaeth neu’n rhywun sy'n byw yng Nghymru.
“Rydyn ni am ichi ddweud eich dweud am y ffordd rydyn ni'n mynd ati i lunio'n heconomi ymwelwyr, sydd mor bwysig i Gymru. Gyda'n gilydd, gallwn ni ddyfeisio ffyrdd newydd o ddatblygu twristiaeth ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod."
Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw 31 Mai ac mae'r 10 cwestiwn i'w gweld yma.
Bydd Baromedr Busnesau Twristiaeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad mwy manwl ar 17 Mai a bydd y dystiolaeth honno'n cael ei defnyddio wrth inni fynd ati i ddatblygu'r cynllun gweithredu.
Dywedodd Zoe Wright, Pennaeth Marchnata Fferm Folly:
"Bu'r Pasg yn brysur iawn yma yn Fferm Folly a gwelsom gynnydd bach yn y nifer a oedd yn bresennol yn ystod y pythefnos o'i gymharu â'r Pasg diwethaf. Roedd yr wythnos cyn y Pasg wedi, i ysgolion Lloegr dorri am wyliau yn eithriadol o dda, ac mae'n golygu ein bod yn mynd i mewn i hanner tymor y Sulgwyn wedi derbyn niferoedd uwch na’r llynedd, ac mae hyn yn sefyllfa wych. Mae'r adborth ymwelwyr ar ein bwyty newydd a'n cae Crwbanod newydd wedi bod yn wych a chydag atyniad newydd i anifeiliaid yn agor ar gyfer gwyliau'r haf rydym yn hyderus o flwyddyn dda."
Mae Canvas and Campfires ym Mhant yr Hwch ger Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, wedi agor yn ddiweddar gyda pump o bebyll saffari moethus ac wedi cael cefnogaeth oddi wrth Gronfa Busnesau Micro a Bychain Llywodraeth Cymru.
Meddai Ellie Waters, Canvas and Campfires:
"Cawsom ddechrau gwych i'r tymor. Roeddem yn llawn dros y Pasg a chawsom adborth gwych gan bawb fu'n aros. Mae ein gwesteion wedi mwynhau'r gwelliannau i'r safle'n fawr, fel ein twb poeth wedi'i gynhesu â pren, ble y gallant nawr eistedd a gwylio'r haul yn machlud mewn moethusrwydd llwyr."