Taliadau i reolwyr tir ac eraill i wneud ein hecosystemau'n gryfach.
Rydym wedi ymrwymo i reoli adnoddau naturiol ar lefel ecosystem.
Rydym bob tro'n chwilio am y canlynol:
- ffyrdd newydd ac arloesol o ddenu arian i economi cefn gwlad
- sut i gael y gorau o bob punt a fuddsoddir
Mae yna lawer o grwpiau sy'n gweithio ar brosiectau a mentrau sy'n cael eu hystyried yn brosiectau PES. Maen nhw'n derbyn arian o amrywiaeth o leoedd. I gael mwy o wybodaeth, ewch i'r wefan: Ecosystems Knowledge Network.
Grŵp Ymarferwyr Taliadau am Wasanaethau Ecosystem (PES).
Mae grŵp ymarferwyr PES yn gymuned o bobl sy'n gweithio yn y maes. Mae'r grŵp yn cwrdd 2 - 3 gwaith y flwyddyn i:
- gefnogi'i gilydd
- trafod pynciau llosg
- rhannu'r gwersi a ddysgwyd a'u harferion gorau
- cyfrannu at ddatblygu polisïau PES