Bydd saith cwmni o Gymru yn pysgota am fusnes ac yn dangos y bwyd môr gorau yn Seafood Expo Global 2019 ym Mrwsel, ffair fasnach bwyd môr mwya'r byd.
Bydd y Seafood Expo Global yn cael ei gynnal rhwng 7 a 9 Mai, yn gyfle gwych i ddangos cynnyrch newydd, agor marchnadoedd newydd a gweld datblygiadau diweddara'r sector. Mae'r ffair fasnach yn denu prynwyr a gwerthwyr o bob rhan o'r byd, gyda 1,900 o bobl o 78 o wledydd yn cymryd rhan.
Yn chwifio'r faner dros sector bwyd a diod Cymru y bydd:
- The Lobster Pot - cwmni teuluol o Borth Swtan, Ynys Môn sy'n cyflenwi bwyd môr ffres o ffynonellau cynaliadwy ac sydd hefyd yn cadw bwyty bwyd môr
- W M Shellfish - cwmni o Ynys Môn sy'n cyflenwi cregyn bylchog, cimychiaid, crancod coch, crancod heglog, cregyn moch ac amrywiaeth o bysgod i gyfanwerthwyr, adwerthwyr a chwmnïau arlwyo
- Ross Shelfish Bigorneaux - cwmni o Gaernarfon, sy'n cyflenwi gwichiaid i'r farchnad yn Ewrop
- Fowey Shelfish Company - cynhyrchydd cregyn gleision sy'n cael eu tyfu ar raffau ym Mae Abertawe
- Sabor de Amor - cwmni o Wrecsam sy'n cynhyrchu blasau Sbaenaidd ar gyfer tapas a phrif brydau gan ddefnyddio cynhwysion heb ychwanegion a chadwolion
- South Quay Shellfish - cwmni o Fôn sy'n cyflenwi pysgod ffres, cramenogion a molysgiaid i siopau arbenigol a
- Dylan's Restaurant - cadwyn o dai bwyta ar hyd arfordir y Gogledd.
Bydd cogydd ar y safle yn paratoi prydau blasus ym mhafiliwn Cymru i ymwelwyr gael blasu'r cynnyrch.
Mae'r diwydiant pysgodfeydd yn gyfrannwr pwysig at economi glan-môr Cymru ac yn allforio gwerth rhyw £22 miliwn o gynnyrch y flwyddyn. Mae cyfraniad Cymru at ddiwydiant bwyd môr y DU hefyd yn arwyddocaol, gan gyfrannu rhyw 22% o gyfanswm gwerth allforion bwyd môr y DU.
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
"Mae Cymru'n enwog am arloesedd ei chynhyrchwyr cregyn môr a bwyd môr. Mae eu brandiau'n adnabyddus ledled y byd am eu hansawdd ac am y ffordd gynaliadwy y maen nhw'n cael eu cynhyrchu.
"Mae'n amser tyngedfennol yn hanes y diwydiant. Wrth inni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd , mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn cael ein gweld mewn ffeiriau fel y Seafood Expo. Trwy ddod i adnabod prynwyr a chyflenwyr, bydd cyfle amhrisiadwy i'n cynhyrchwyr gyrraedd marchnadoedd newydd a tharo ar fargeinion masnachu rhyngwladol."