Yn 2017/18, cymerodd mwy na 100,000 o bobl ifanc ym mlynyddoedd 7 i 11 yr ysgolion uwchradd yng Nghymru ran yn yr Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr
Gwybodaeth am y gyfres:
Y tro hwn roedd yn cynnwys yr arolwg Ymddygiadau Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol (HBSC). Cafodd yr arolwg ei weinyddu gan yr ysgolion eu hunain a llenwodd y myfyrwyr yr arolwg yn electronig.
Mae'r arolwg yn rhoi dealltwriaeth fanwl o iechyd a lles pobl ifanc, gan gynnwys y boblogaeth gyfan ac is-grwpiau o'r boblogaeth, fel plant sy'n derbyn gofal.
Mae’r arolwg yn cynnwys:
- iechyd a lles cyffredinol
- bywyd ysgol
- bywyd teuluol a ffrindiau
- perthnasoedd
- ysmygu, yfed a chymryd cyffuriau
- gamblo.