Yn y canllaw hwn
1. Cyflwyniad
Mewn sawl achos, mae gosod paneli solar ar dir annomestig yn debygol o gael ei ystyried yn 'ddatblygiad a ganiateir' ac ni fydd angen gwneud cais i'r cyngor am ganiatâd cynllunio. Serch hynny, mae cyfyngiadau ac amodau pwysig y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn elwa ar yr hawliau datblygu a ganiateir (gweler isod).
- Cyhyd ag y bo’n ymarferol, dylid lleoli’r paneli mewn man sy’n golygu eu bod yn cael cyn lleied o effaith ag y bo modd ar olwg yr adeilad.
- Cyhyd ag y bo’n ymarferol, dylid eu lleoli mewn man sy’n golygu eu bod yn cael cyn lleied o effaith ag y bo modd ar amwynder yr ardal.
- Dylid eu tynnu cyn gynted ag y bo modd pan na fydd eu hangen bellach i ficrogynhyrchu ynni.
- Ni ddylent ymwthio mwy na 200mm o wyneb y to neu’r wal.
- Os ydynt yn cael eu gosod ar do fflat, ni chaiff paneli ymwthio mwy nag 1 metr uwchben plân y to.
- Ni cheir lleoli paneli o fewn 1 metr i ymyl allanol y to.
- Os ydynt yn cael eu gosod ar wal, ni ddylid lleoli paneli lai nag 1 metr o le y mae’r wal hwnnw’n cyffwrdd â wal arall neu â tho’r adeilad.
- Os yw’ch eiddo mewn ardal gadwraeth neu Safle Treftadaeth y Byd, bydd angen caniatâd cynllunio os bwriedir gosod paneli ar waliau prif wedd neu dalcen yr adeilad ac os bydd modd eu gweld o’r briffordd.
- Os yw’ch eiddo’n adeilad rhestredig, bydd angen caniatâd cynllunio a chaniatâd adeilad rhestredig arnoch. Bydd angen caniatâd cynllunio arnoch hefyd os yw’r safle ar safle a ddynodwyd yn heneb gofrestredig.
Mae tir annomestig at ddibenion yr hawliau datblygu a ganiateir hyn yn eang ac fe all gynnwys busnesau ac adeiladau cymunedol. Mae hawliau datblygu a ganiateir hefyd ar gael ar gyfer eiddo domestig.
Efallai y byddwch yn dymuno trafod gyda'r awdurdod cynllunio lleol yn eich ardal i weld a fydd yr holl gyfyngiadau ac amodau yn cael eu bodloni.
Dileu hawliau datblygu a ganiateir
Mae angen ichi wybod a yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu’r hawliau datblygu a ganiateir yn achos eich eiddo. Os yw’r hawliau hynny wedi’i dileu, rhaid ichi gyflwyno cais cynllunio ar gyfer y gwaith.
Mae’n bosibl bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu rhai o’r hawliau datblygu a ganiateir fel un o amodau’r caniatâd cynllunio gwreiddiol ar gyfer eich eiddo. Bydd yr wybodaeth hon ar gael yn y gofrestr gynllunio sy’n cael ei chadw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae’n bosibl hefyd y bydd hawliau datblygu a ganiateir wedi cael eu dileu drwy gyfrwng cyfarwyddyd 'Erthygl 4'. Mewn ardaloedd cadwraeth yn bennaf y gwelir cyfarwyddydau o’r fath, a hynny oherwydd y gallai gwaith datblygu nad yw’n cael ei reoli fygwth cymeriad ardal. Dylai’ch cyfreithiwr fod wedi rhoi gwybod ichi pan brynoch eich eiddo a oes cyfarwyddyd erthygl 4 arno ai peidio, ond gallwch holi’r Awdurdod Cynllunio Lleol os nad ydych yn siŵr.