Mae'r sefyllfa o ran TB yn gwella diolch i'n rhaglen dileu TB, ond rhaid inni nawr gynnal y momentwm a phara i weithio gyda'n gilydd i gael gwared ar y clefyd - dyna neges Gweinidog yr Amgylchedd , Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths wrth iddi roi adroddiad i'r cyfarfod llawn ar y rhaglen, ddeunaw mis ers ei had-drefnu.
Yn 2018, cafwyd 746 o fuchesi ag achosion newydd o TB yng Nghymru, 5% yn llai nag yn 2017. O'r achosion hynny, cafodd 11,233 o anifeiliaid eu difa oherwydd TB, sef cynnydd o 12%. Y rheswm pennaf am y cynnydd yw'r mesurau gwyliadwriaeth llymach a'n llwyddiant i nodi a difa nifer fwy o anifeiliaid heintiedig wrth inni ennill y blaen ar y clefyd.
Mae fersiwn y rhaglen dileu TB a gafodd ei lansio yn 2017 a'i phwyslais ar ranbarthau wedi gweddnewid y ffordd yr ydym yn mynd i'r afael â'r clefyd yng Nghymru. Mae'r system ranbarthau yn golygu'n bod yn gallu mynd i'r afael â TB mewn ffyrdd gwahanol, yn seiliedig ar lefelau'r risg yn rhannau gwahanol o'r wlad.
Un o brif amcanion y rhaglen yw diogelu'r Ardal TB Isel rhag y clefyd. Cadarnhaodd y Gweinidog heddiw ein bod yn llwyddo i amddiffyn yr ardal yn y Gogledd-orllewin, gyda'r Profion ar ôl Symud yn chwarae rhan bwysig. Ond mae mwy i'w wneud ac mae'r Gweinidog yn pwyso ar bob ffermwr yn yr Ardal TB Isel i wneud popeth yn eu gallu i gadw TB allan.
Un o brif ymrwymiadau'r rhaglen newydd yw'r dull ffurfiol o daclo'r buchesi sydd â'r achosion mwyaf styfnig trwy Gynlluniau Gweithredu penodol ar gyfer buchesi sydd wedi bod o dan gyfyngiadau am 18 mis neu fwy. Erbyn diwedd mis Rhagfyr, roedd 59 o Gynlluniau Gweithredu wedi'u rhoi ar waith a chodwyd y cyfyngiadau ar 21 o fuchesi oedd â Chynllun Gweithredu.
Wrth annerch y cyfarfod llawn, cadarnhaodd y Gweinidog hefyd:
- y bydd yn cynnal adolygiad o'r iawndal ar gyfer TB ar adeg briodol. Yn 2018-29, cafodd dros £14m ei dalu fel iawndal i ffermwyr. Mae hyn yn ormod o dreth ar bwrs y wlad. Rhaid i unrhyw drefn newydd sbarduno ffermwyr i gadw at arferion da ac i osgoi arferion drwg; a
- mae swyddogion yn edrych ar sut mae gostwng nifer y gwartheg sy'n adweithio i'r profion sy'n gorfod cael eu saethu ar y fferm a sut mae lleihau stres y sefyllfa i'r rheini yr effeithir arnyn nhw.
Dywedodd y Gweinidog:
"Gwnaeth y rhaglen dileu TB newydd a lansiais yn 2017 weddnewid y ffordd yr ydym ni fel Llywodraeth a'r diwydiant yn ystyried ac yn mynd i'r afael â'r clefyd.
"Mae'n dda gen i heddiw allu rhoi'r diweddaraf ichi am y rhaglen wrth i'r data llawn ar gyfer TB yn 2018 ddod i law. Mae'r sefyllfa o ran taclo'r clefyd yn gwella ond rhaid inni nawr gynnal y momentwm i gael gwared ar y clefyd.
"Mae'r drefn ranbarthau'n gweithio ac wedi'n galluogi i addasu'r ffordd rydym yn mynd i'r afael â'r clefyd ac i addasu'n hymateb yn ôl maint y risg yn yr ardal dan sylw. Rydym wedi llwyddo i ddiogelu'r Ardal TB Isel ac wedi gallu ymateb i sefyllfa a ddatblygodd gyda'r clefyd yn Ardal TB Ganolradd y Gogledd - gan fabwysiadu trefn gryfach ar gyfer profi ffermydd cyfagos a threfnu ymweliadau 'cadw TB allan' gan filfeddygon i helpu buchesi sydd heb TB.
"Ond allwn ni ddim dileu'r clefyd ar ein pen ein hunain - mae gennym oll ran i'w chwarae. Ni allaf orbwysleisio gwerth cydweithio wrth geisio dileu TB. Trwy weithio'n unllygeidiog gyda'n gilydd mewn partneriaeth at wireddu'r un nod, llwyddwn i gael gwared ar y clefyd hwn."