Yn y canllaw hwn
1. Rwyf am newid fy eiddo preswyl yn siop
Mae'r rheoliadau yn diffinio bod addasu cartref yn siop yn 'newid defnydd o bwys', ac maent yn nodi'r gofynion y bydd yn rhaid i'r adeilad, neu ran berthnasol yr adeilad, gydymffurfio â nhw o ganlyniad i'r newid defnydd hwnnw.
Mae'r gofynion penodol yn cynnwys rhai sy'n ymwneud â dianc o'r adeilad a materion eraill sy'n ymwneud â thân, hylendid, arbed ynni, mynediad i adeiladau a'r defnydd a wneir ohonynt.
Felly, efallai y bydd angen uwchraddio'r adeilad er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r gofynion penodol.
Yn ogystal, dylech gysylltu â'r awdurdod tân lleol, sef yr Awdurdod Unedol fel rheol, i weld pa ddeddfwriaeth ynghylch diogelwch tân a fydd mewn grym ac a fydd yn berthnasol pan fydd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio.