Yn y canllaw hwn
1. Trosolwg
Mae cynllun Rhanberchnogaeth – Cymru yn rhoi cymorth i'r rhai hynny sydd am brynu cartref ond nad ydynt yn gallu fforddio prynu 100% o'r cartref am y gwerth llawn ar y farchnad.
Sut mae'n gweithio
O ran Rhanberchnogaeth – Cymru:
- gallwch brynu cyfran o'r cartref a thalu rhent ar y gyfran arall
- gallwch brynu cyfran gychwynnol a fydd yn cyfateb i rhwng 25% a 75% o werth yr eiddo yr ydych wedi'i ddewis
- rhaid ichi gael morgais ad-dalu ar gyfer y gyfran o'r cartref yr ydych yn ei phrynu
- gallwch gynyddu eich cyfran yn yr eiddo ar unrhyw adeg
Enghraifft ariannol o brynu eiddo am y tro cyntaf
Gwerth y cartref pan gafodd ei werthu | £200,000 |
Y gyfran ecwiti a brynwyd pan werthwyd y cartref | 30% |
Yr hyn a dalwyd i'r darparwr pan werthwyd y cartref | £60,000 |
Y blaendal gofynnol | £6,000 |
Y morgais gofynnol | £54,000 |
Yr ad-daliad misol gofynnol ar gyfer y morgais (Wedi'i seilio ar forgais 25 mlynedd yn ôl 4.5%) |
£300 bob mis calendr (£69 yr wythnos) |
Y gyfran eciwiti a gadwyd gan y darparwr | 70% |
Gwerth y gyfran a gadwyd gan y darparwr | £140,000 |
Uchafswm y rhent blynyddol | £3,850 |
Uchafswm y rhent misol | £321 bob mis (£74 yr wythnos) |
Cyfuniad o'r taliadau morgais a rhent bob mis | £621 bob mis (£300 (morgais) + £321 (rhent)) |
Os oedd yr ymgeisydd wedi gallu talu'r morgais yn llawn bob mis ar sail blaendal o 10% (£20k) ar gyfer morgais 25 mlynedd yn ôl 4.5%, y taliad bob mis fyddai £1,000.
Enghraifft o gynyddu cyfran eich perchentyaeth
Cewch gyfle i brynu mwy o gyfrannau yn eich cartref, sef cynyddu cyfran eich perchentyaeth (a elwir yn 'staircasing' yn Saesneg).
Gwerth y cartref ar adeg cynyddu cyfran y berchentyaeth | £220,000 |
Y gyfran eciwiti i'w phrynu i gynyddu cyfran y berchentyaeth | 20% |
Y taliad i'r landlord i gynyddu cyfran y berchentyaeth | £44,000 |
Y gyfran sy'n eiddo ichi ar ôl cynyddu cyfran y berchentyaeth | 50% |
Y gyfran eciwiti a gedwir gan y landlord | 50% |
Y rhent a dalwyd cyn cynyddu cyfran y berchentyaeth | £385 bob mis |
Y rhent a dalwyd ar ôl cynyddu cyfran y berchentyaeth | £275 bob mis |