Nifer y cleifion sy’n derbyn triniaeth ddeintyddol ar y GIG, y math o driniaeth a ddarparwyd a’r nifer o ddeintyddion GIG ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwasanaethau deintyddol GIG
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
Nifer y cleifion a gafodd eu trin yn y 24 mis cyn 31 Mawrth 2019
- Cafodd 1.7 miliwn o gleifion (55.0% o’r boblogaeth) eu cofnodi fel rhai a gafodd driniaeth yn y 24 mis cyn 31 Mawrth 2019.
- Cafodd 51.9% o'r boblogaeth sy'n oedolion eu trin, gostyngiad bychan o’r cyfnod blaenorol; ynghyd â 67.7% o'r boblogaeth sy’n blant, cynnydd bychan o’r cyfnod blaenorol.
Taliadau cleifion rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019
- Roedd 45.6% o’r holl gyrsiau o driniaeth ar gyfer oedolion a oedd yn talu.
- Cyfanswm y taliadau gan gleifion oedd £36.4 miliwn. Mae hyn yn gynnydd o 2.6% o’i gymharu â £35.5 miliwn a dalwyd gan gleifion yn 2017-18.
Gweithgarwch rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019
- Roedd tua 2.4 miliwn o gyrsiau unigol o driniaeth deintyddol o dan y GIG, cynnydd o 2.2% o’i gymharu â 2017-18.
- Cafodd cyfanswm o 4.9 miliwn uned o weithgarwch deintyddol eu cynnal yn 2018-19; ffigur tebyg o’i gymharu â 2017-18.
Y gweithlu rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019
- Roedd 1,506 o ddeintyddion wedi cofnodi gweithgarwch o dan y GIG rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019.
- Cyfatebai hyn â 4.8 deintydd ar gyfer pob 10,000 o’r boblogaeth, cynnydd bychan ers y flwyddyn flaenorol.
Adroddiadau
Gwasanaethau deintyddol GIG, Ebrill 2018 i Fawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Gwasanaethau deintyddol GIG, Ebrill 2018 i Fawrth 2019: atodiad tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 95 KB
ODS
Saesneg yn unig
95 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.