Yn y canllaw hwn
2. Pwy sy'n gymwys
I fod yn gymwys ar gyfer y Cynllun, rhaid i chi:
- fod yn prynu cartref cymwys, gydag uchafswm pris o £300,000 (o 1 Ebrill 2023) gan adeiladwr sydd wedi cofrestru gyda’r Cynllun
- allu ariannu o leiaf 80% o bris yr eiddo trwy gyfuniad o forgais ad-dalu ac isafswm blaendal o 5% o’r pris prynu
- gymryd morgais ad-dalu arwystl cyntaf gyda benthyciadau cymwys
- beidio ag is-osod unrhyw ran o’r tŷ rydych yn ei brynu drwy’r Cynllun
- beidio â bod yn rhentu eich cartref presennol a phrynu 2il gartref drwy'r Cynllun