‘Rhianta. Rhowch amser iddo’ – Awgrymiadau ar gyfer arwain ymddygiad plant
Dyma pump syniad sy’n gweithio i’ch helpu i ddatblygu perthynas dda gyda’ch plenty.
Bydd y syniadau hyn yn annog ymddygiad positif, yn hwb i hyder eich plentyn ac yn ei gefnogi gydol pob cam o’i ddatblygiad.
Mae pob plentyn yn unigryw a byddant yn ymateb yn wahanol. Os ydych chi’n rhoi cynnig ar y syniadau hyn gyda’i gilydd ac yn rhoi digon o amser iddyn nhw weithio, dylen nhw eich helpu i reoli ymddygiad eich plentyn yn well. Peidiwch â rhoi’r ffidil yn y to os nad yw pethau’n gwella ar unwaith. Bydd addasu i’ch dull newydd yn cymryd amser, felly ceisiwch fod yn amyneddgar a phositif. Os ydych chi’n dal ati, dylech weld gwelliant.
Mae pob rhiant yn cael trafferth rheoli rhai mathau o ymddygiad ac mae pob plentyn yn dangos ymddygiad anodd ar ryw adeg. Dyw hi ddim yn hawdd newid y ffyrdd rydym ni’n gwneud pethau. Does neb yn gwneud pethau’n iawn drwy’r adeg felly peidiwch â bod yn rhy galed gyda chi’ch hun - does neb yn berffaith.
Cofiwch nad yw’ch plentyn yn berffaith chwaith. Gallai llawer o’r ymddygiad sy’n ddrwg yn eich tyb chi fod yn gyffredin mewn gwirionedd i oedran a chyfnod datblygiad eich plenty.