Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n bwysig iawn cadw dannedd eich plentyn yn lân ac yn iach ond gall fod yn anodd os nad yw'ch plentyn yn mwynhau cael ei dannedd wedi’i frwsio. Dyma rai awgrymiadau ar bryd a sut i frwsio dannedd eich plentyn.

Mae brwsio dannedd â phast dannedd fflworid yn helpu i atal dannedd rhag pydru ac i gadw gymiau'n iach. Bwyd a diod yn cynnwys siwgr sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o bydredd dannedd. Mae cyngor ynglŷn ag amser bwyd a bwyta'n iach ar ein tudalen amser bwyd.

Pryd dylwn i ddechrau brwsio dannedd fy mhlentyn?

  • Dechreuwch frwsio dannedd eich plentyn cyn gynted ag y byddan nhw'n ymddangos. Mae'r dannedd babi cyntaf yn ymddangos pan fydd plentyn tua 6 mis oed, ond gall ddigwydd rai misoedd yn hwyrach na hyn.
     
  • Ewch â'ch plentyn at y deintydd erbyn ei fod yn 1 oed - gall y tîm deintyddol roi help a chyngor i chi ar gadw dannedd yn iach.

Sut dylwn i frwsio dannedd fy mhlentyn?

  • Dewiswch frws meddal â phen bach.
     
  • Brwsiwch ddwywaith y dydd - yn y bore a chyn mynd i'r gwely bob nos.
     
  • Ar gyfer plant rhwng 6 mis a 3 mlwydd oed - defnyddiwch ddiferyn o bast dannedd teulu sy'n cynnwys 1000 - 1350 rhan fesul miliwn (ppm) o fflworid (bydd y manylion ar y pecyn).
     
  • Ar gyfer plant 3 oed a throsodd - defnyddiwch faint pysen o bast dannedd teulu sy'n cynnwys 1350 i 1500 ppm o fflworid.

Bydd angen i chi oruchwylio'ch plentyn yn brwsio'i ddanedd nes y bydd yn 8 oed o leiaf. Peidiwch byth â gadael plentyn ar ei ben ei hun gyda brws dannedd - mae'n bosibl iddo faglu a brifo'i geg - a pheidiwch â gadael i'ch plentyn fwyta past dannedd.

  • Peidiwch byth â rhannu brwsys dannedd - gwnewch yn siŵr bod gan bawb ei frwsh ei hun.

Brwsio dannedd eich plentyn

  • Eisteddwch eich plentyn ar eich glin, gyda'i ben ar eich penelin - gallwch ddal ei ben a gweld ei ddannedd.
     
  • Glanhewch y dannedd yn dyner, yn un rhan o'r geg ar y tro - a chofiwch y dannedd cefn.
     
  • Sychwch unrhyw bast dannedd sydd dros ben i ffwrdd. Gall plant hŷn boeri past dannedd sydd dros ben allan, ond peidiwch â gadael iddyn nhw rinsio â dŵr. Mae hynny'n golchi'r past dannedd i ffwrdd ac yn ei atal rhag gweithio cystal.

Beth alla i wneud os nad yw fy mhlentyn yn gadael i mi frwsio ei ddannedd?

  • Gadewch i'ch plentyn eich gweld chi'n brwsio'ch dannedd. Mae plant bach wrth eu boddau'n dynwared.
     
  • Gwnewch gêm ohono - brwsiwch eich dannedd ac yna gadewch i'ch plentyn frwsio eich dannedd chi. Wedyn brwsiwch ddannedd eich plentyn. 
     
  • Defnyddiwch ddrych a glanhau ei ddannedd o'r tu cefn i'ch plentyn fel ei fod yn gallu gwylio beth rydych chi'n ei wneud.
     
  • Gwnewch y broses o frwsio dannedd yn rhan o drefn amser mynd i'r gwely. Os yw eich plentyn wedi blino ar ôl cael bath, rhowch gynnig ar frwsio'i ddannedd cyn ei roi yn y bath neu hyd yn oed tra y mae'n cael bath.
     
  • Gadewch i'ch plentyn ddewis ei frws dannedd ei hun, ond gwnewch yn sicr ei fod yn addas i blant.
     
  • Os yw defnyddio brws dannedd yn anodd, rhowch gynnig ar ddefnyddio diferyn o bast dannedd ar gadach ymolch glân, sych wedi'i lapio o gwmpas eich bys. Cewch newid i frws dannedd pan fydd eich plentyn wedi magu mwy o hyder.
     
  • Gall defnyddio synau wneud brwsio dannedd yn hwyl. Gofynnwch i'ch plentyn wneud sŵn 'iiii' pan 'dych chi'n glanhau ei ddannedd blaen, a sŵn 'aaaa' ar gyfer y dannedd cefn.
     
  • Gall canu helpu hefyd. Gadewch i'ch plentyn ddewis cân i chi ei chanu wrth iddo frwsio'i ddannedd. Efallai yr hoffech chi ddefnyddio teclyn amseru brwsio dannedd sy'n helpu plant i weld a ydyn nhw'n brwsio'u dannedd yn ddigon hir i'w glanhau nhw (rhwng munud a dwy funud). Mae teclynnau amseru lliwgar gyda chymeriadau arnynt ar gael, i'w wneud yn fwy o hwyl.
     
  • Mae llyfrau am frwsio dannedd a mynd at y deintydd ar gael ac mae fideos o blant yn brwsio'u dannedd ar gael ar y we.

Os 'dych chi'n dal yn cael problemau, siaradwch â'ch ymwelydd iechyd neu ewch i weld eich deintydd.

Cewch ddarllen rhagor am frwsio dannedd a sut i gadw dannedd eich plentyn yn iach ar wefan Cynllun Gwên.

Ble i gael cyngor a chefnogaeth 

Mae cymorth a chyngor magu plant cyffredinol ar gael gan fydwragedd, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu a’ch awdurdod lleol. Mae rhaglenni cymorth cynnar fel Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf hefyd ar gael. 

Edrych ar ôl dy hunan. Gall cwrdd â rhieni eraill fod yn llesol. Bydd y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol yn gallu dweud wrthyt beth sy’n digwydd yn dy ardal.