Tips ymarferol a chyngor arbenigol, am ddim, ar gyfer eich holl heriau magu plant
Stopio cosbi corfforol yng Nghymru
Mae cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru. Rydyn ni eisiau amddiffyn plant a’u hawliau, er mwyn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd iddyn nhw.
Mae Magu Plant. Rhowch amser iddo yn cynnig awgrymiadau ymarferol a chyngor arbenigol ar fagu plant mewn modd cadarnhaol i annog ymddygiad da gan blant a dewisiadau eraill yn lle cosb gorfforol.
Cefnogi rhieni - Cyngor i helpu gyda’r heriau dyddiol o fod yn rhiant
Mwy am y gyfraith - A yw’r gyfraith cosbi corfforol yn berthnasol i bawb, a beth y dylid ei wneud os byddwch yn poeni am blentyn
Adnoddau defnyddiol - Adnoddau a gwybodaeth i rhieni a gweithwyr proffesiynol
Llinellau Cymorth
Family lives
Mae Family Lives yn cynnig llinell gymorth gyfrinachol am ddim i deuluoedd yng Nghymru ar bob agwedd o fagu plant a bywyd teuluol. I siarad â rhywun ffoniwch 0808 800 2222 neu ewch i Parenting and Family Support - Family Lives (Parentline Plus) i gael mynediad i'r sgwrs fyw.
Parent Talk (Action for Children/Gweithredu dros Blant)
Yn cynnig sgwrs cyfrinachol am ddim gyda hyfforddwr rhianta cymwys yn Saesneg. Ewch i Parent Talk - support for parents from Action For Children/Gweithredu dros Blant.