Yn y canllaw hwn
2. Pwy sy'n gymwys
I fod yn gymwys ar gyfer cynllun Rhentu i Berchnogi – Cymru:
- rhaid i incwm cyfunol eich aelwyd fod yn £60,000 neu lai y flwyddyn
- rhaid ichi fod yn gweithio, sydd hefyd yn cynnwys bod yn hunangyflogedig
- rhaid ichi beidio â bod yn gymwys ar gyfer budd-dal tai
- rhaid ichi beidio â pherchen ar gartref unman arall yn y byd (oni bai bod gorchymyn llys yn eich gorfodi i gael eich cynnwys ar weithred yr eiddo lle bo'r plant yn preswylio)
- rhaid ichi beidio â gallu fforddio prynu eiddo sy'n addas at ddibenion maint eich teulu ar y farchnad agored neu drwy unrhyw fenter arall i berchen ar gartref
- rhaid ichi allu fforddio rhent yr eiddo a ddewiswyd gennych
- rhaid ichi fod yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd yn yr Undeb Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewropeaidd, neu ddinesydd sydd â chaniatâd amhenodol i aros
- rhaid ichi rentu cartref cymwys gan landlord sy'n cynnig cartref dan y cynllun