Helpu pobl i benderfynu a ddylai rhan o'u cyhoeddiadau, neu'r cyfan ohonynt, fod ar LLYW.CYMRU neu beidio.
Cynnwys
Trosolwg
Mae LLYW.CYMRU wedi'i gynllunio i ddiwallu'r anghenion sydd gan bobl Cymru gan Lywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i holl gynnwys LLYW.CYMRU ddangos anghenion clir gan y defnyddiwr, ac mae'n rhaid iddo gydymffurfio â safonau cyhoeddi.
Beth sy'n cael ei gynnwys ar LLYW.CYMRU
LLYW.CYMRU yw cartref diofyn cynnwys Llywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i unrhyw eithriadau gael eu cytuno gan y Cyfarwyddwr Cyfathrebu. Mae 'Llywodraeth Cymru' yn cynnwys adrannau, adrannau nad ydynt yn rhai gweinidogol a chyrff cynghori.
Gwybodaeth
Enghreifftiau:
- datganiadau i'r wasg
- datganiadau
- ymgyngoriadau
- strategaethau a phapurau polisi
- canllawiau
- ystadegau ac ymchwil
- ymgyrchoedd
- adroddiadau
- asesiadau effaith
- data
- mapiau
- Datganiadau Rhyddid Gwybodaeth
Gwasanaethau
Enghreifftiau:
- hawlio taliadau gwledig
- cymorth i brynu tŷ
- cymorth i gyflymu band eang
Beth sydd ddim yn cael ei gynnwys ar LLYW.CYMRU
Cynnwys sy'n eiddo i’r mathau hyn o gyrff cyhoeddus ac sy’n cael ei greu ganddynt:
- sefydliadau sydd â swyddogaethau arolygu neu reoleiddio, hyd yn oed os ydynt yn rhan o Lywodraeth Cymru
- Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru (Gweithredol)
- Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru (Tribiwnlys)
- elusennau cofrestredig, mentrau cydfuddiannol neu gymdeithasol
- sefydliadau sy'n cael llai na 50% o'u cyllid gan Lywodraeth Cymru
- sefydliadau nad ydynt yn atebol i Lywodraeth Cymru
Cynnwys sy'n eiddo i’r sefydliadau sector cyhoeddus hyn ac yn cael ei greu ganddynt:
- awdurdodau lleol
- cynghorau tref a chymuned
- awdurdodau parciau cenedlaethol
- awdurdodau tân ac achub
- byrddau iechyd lleol
- ymddiriedolaethau iechyd
- cynghorau iechyd cymuned
- deiliaid swyddi statudol annibynnol
- Llywodraeth y DU
Gall LLYW.CYMRU greu cyswllt at y cynnwys hwn pan fydd yn diwallu anghenion defnyddwyr yn ymwneud â pholisi Llywodraeth Cymru, er enghraifft:
- gall cynnwys sy’n ymwneud â'r Gronfa Cymorth Dewisol gael ei gysylltu â chynnwys Llywodraeth y DU ar fudd-daliadau
- gallwn greu cyswllt at wefannau awdurdodau lleol ar gyfer gwneud cais am bàs bws