Gallwch wneud cais ar-lein os ydych yn credu fod gennych hawl i ad-daliad Treth Trafodiadau Tir.
Cynnwys
Gwneud cais am ad-daliad
Gallwch hawlio ad-daliad os ydych:
- wedi talu TTT ar y gyfradd uwch ond bellach wedi gwerthu eich prif breswylfa flaenorol
- wedi gordalu treth
- wedi gwneud taliad i ni ar ddamwain
- yn hawlio rhyddhad anheddau lluosog (MDR)
Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen, gall gymryd 15 i 20 diwrnod gwaith i'w phrosesu. Gall gymryd mwy o amser os byddwn angen rhagor o wybodaeth neu os caiff yr ad-daliad ei hawlio 12 mis neu fwy ar ôl i chi brynu’r eiddo.
Pryd y gallwch hawlio ad-daliad
Os y gwnaethoch brynu eich eiddo neu dir lai na 12 mis yn ôl
Gallwch ddiwygio'ch ffurflen dreth TTT hyd at 12 mis o'r dyddiad ffeilio er mwyn hawlio ad-daliad. Gwneir yr ad-daliad yn dilyn eich diwygiad.
Nid yw hyn yn golygu ein bod yn cytuno â'r rheswm dros eich ad-daliad. Gallwn ysgrifennu atoch i fynegi unrhyw bryderon sydd gennym ynglŷn â’ch diwygiad. Mae gennym 12 mis o'r adeg y gwnaethoch ddiwygio eich ffurflen i agor ymholiad er mwyn ei gwirio.
Os y gwnaethoch brynu eich eiddo neu dir dros 12 mis yn ôl
Ni allwch ddiwygio eich ffurflen dreth, ond gallwch wneud cais am ad-daliad. Fel arfer, rhaid i chi wneud hyn o fewn 4 blynedd i’r pryniant, gan ddweud wrthym pam eich bod yn meddwl eich bod wedi gordalu.
Gallwn wirio'ch hawliad cyn ei ad-dalu a gallwn ysgrifennu atoch os nad yw'n edrych yn gywir. Os byddwch yn dymuno parhau â’r hawliad, gallwn agor ymholiad a gwirio a yw’n gywir. Mae gennym 12 mis i agor ymholiad, gan ddechrau o'r diwrnod ar ôl i chi ei gyflwyno.
Os bydd ad-daliad yn ddyledus, bydd yn cael ei brosesu ar ôl i ni orffen ein gwiriad.
Yr adegau pan na allwn ni dderbyn eich hawliad am ad-daliad
Ni fyddwn yn derbyn hawliadau am ad-daliad pan fo’r canlynol yn berthnasol:
- rydych yn credu eich bod wedi talu gormod o dreth ac y gallech chi fod wedi hawlio rhyddhad TTT
- rydych wedi prynu eich eiddo neu eich tir dros 12 mis yn ôl
Mae angen hawlio’r rhan fwyaf o ryddhadau TTT angen yn un o'r canlynol:
- yn y ffurflen dreth
- trwy ddiwygio ffurflen dreth o fewn 12 mis i'r dyddiad ffeilio
Nid yw'r rheolau hyn yn berthnasol os yw eich hawliad yn ymwneud â rhyddhad lluoedd arfog sy'n ymweld, a rhyddhad pencadlysoedd milwrol rhyngwladol.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n canllawiau technegol ar y rhesymau dros wrthod hawliad.
Diwygiadau
Os ydych angen newid unrhyw beth arall ar eich ffurflen dreth, gallwch ddefnyddio'r ffurflen ddiwygio eich ffurflen dreth ar-lein.
Cymorth
Os ydych chi'n ansicr a allwch wneud cais am ad-daliad neu eich bod angen ffurflen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.