Cefnogaeth i gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol adeiladu tai cymdeithasol newydd.
Tai y mae awdurdodau lleol a chymdeithasu tai yn berchen arnynt ac yn eu rheoli yw tai cymdeithasol. Weithiau, mae cymdeithasu tai yn cael eu galw'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig neu RSL.
Gellir defnyddio cymorth i wneud y canlynol:
- adeiladu tai cymdeithasol newydd
- prynu ac adnewyddu cartrefi
Mae cyllid ar gael i gymdeithasau tai drwy 2 gronfa:
- y grant cyllid tai
- y grant tai cymdeithasol
Y grant cyllid tai
Rhoddir y grant cyllid tai i gymdeithasau tai. Mae i'r grant gronfa ar wahân a elwir y grant tai fforddiadwy. I awdurdodau lleol y mae'r grant hwn.
Y Grant Tai Cymdeithasol
Rhoddir y grant tai cymdeithasol i gymdeithasau tai. Cyllid ar gyfer tai cymdeithasol newydd yw hwn ond gellir ei ddefnyddio hefyd i helpu pobl i brynu cartref.
Sut mae cyllid yn cael ei wario
Rhoddir cyllid i wahanol brosiectau tai ar draws Cymru. Mae pob prosiect wedi'i seilio ar anghenion tai yr ardal leol.
Gall y cyllid helpu'r canlynol:
- prosiectau â'r bwriad o gynyddu'r cyflenwad o dai rhent fforddiadwy
- rosiectau ar gyfer pobl hŷn, o'r fath a elwir yn dai 'gofal ychwanegol', tai i bobl hŷn yw'r rhain, ond maent hefyd yn darparu gofal ychwanegol a chymorth â thasgau bob dydd ar yr aelwyd
- prosiectau lle nad oes llawer o alw am dai newydd mewn ardal ond maent yn helpu i wella'r gymuned
- prosiectau i helpu pobl y mae angen cefnogaeth arnynt i fyw'n annibynnol
Datblygwyr sydd eisiau adeiladu tai cymdeithasol newydd
Cysylltwch ag un o'r canlynol i gael rhagor o wybodaeth:
- eich awdurdod lleol
- eich cymdeithas dai
- Cartrefi Cymunedol Cymru
- Banc Datblygu Cymru