Yn y canllaw hwn
5. Rhagor o wybodaeth: ail-doi
Ar ôl cyfnod o amser, bydd angen rhoi to newydd yn lle'r to sydd ar adeiladau presennol. Yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer y gwaith hwn.
Toeau gwastad
Ni fydd angen gwneud cais am gymeradwyaeth dan y Rheoliadau Adeiladu ar gyfer rhai atgyweiriadau i doeau gwastad. Fodd bynnag, os bwriedir gosod to newydd yn lle to y mae deunydd inswleiddio'n rhan ohono, efallai y bydd yn ofynnol ichi uwchraddio'r 'elfen thermol' hon yn y strwythur a lleihau'r gwres a gâi ei golli'n wreiddiol, drwy uwchraddio'r deunydd inswleiddio.
To ar oleddf
Os bwriedir gosod gorchudd newydd ar y to, sydd o ddeunydd gwahanol i'r deunydd gwreiddiol, er enghraifft, teils yn lle llechi, mae'n debygol y bydd angen cymeradwyaeth dan y Rheoliadau Adeiladu. Diben hynny yw sicrhau bod y to'n ddigonol o safbwynt sefydlogrwydd strwythurol (a fydd yn berthnasol os bydd y deilsen newydd gryn dipyn yn drymach neu'n ysgafnach na'r un bresennol) a sicrhau hefyd ei fod yn bodloni gofynion o ran diogelwch tân ac effeithlonrwydd ynni (gweler uchod).
Os bydd gorchudd newydd y to gryn dipyn yn drymach neu'n ysgafnach na'r un presennol, efallai y bydd angen addasu a/neu gryfhau strwythur y to, ac fe'ch cynghorir i ymgynghori â syrfëwr neu beiriannydd adeiladu cyn dechrau ar unrhyw waith.
Efallai y byddwch am ddefnyddio gosodwr sydd wedi'i gofrestru gyda'r cynllun person cymwys perthnasol ar gyfer adnewyddu gorchuddion toeau ar do ar oleddf a fflat.
Effeithlonrwydd ynni
Caiff to ei ddiffinio'n elfen thermol, felly dylai gwaith ailorchuddio to gynnwys darpariaeth ar gyfer gwella'i briodweddau o ran inswleiddio thermol.