Fel rheol, ni fydd angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio i aildoi eich tŷ neu i osod ffenestri to ynddo.
Mae’r rheolau datblygu a ganiateir yn caniatáu newidiadau i’r to heb fod angen caniatâd cynllunio, cyhyd â’u bod yn cydymffurfio â’r amodau a’r terfynau a restrir isod:
- ni chaiff y gwaith addasu ar y to ymestyn dros 150 milimedr y tu hwnt i ymyl presennol plân y to
- ni ddylai unrhyw addasiadau fod yn uwch na rhan uchaf y to
- rhaid i ffenestri ochr fod mewn gwydr cymylog, heb fod modd eu hagor, os ydynt wedi’u gosod ar ochr tŷ sydd o fewn 10.5 metr i ffin ochr y tŷ
- rhaid i’r deunyddiau fod mor debyg ag y bo modd i’r rheini a ddefnyddiwyd ar gyfer eich to presennol
- ni chaniateir ffenestri to mewn ardaloedd cadwraeth, parciau cenedlaethol, ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol na Safleoedd Treftadaeth y Byd
- mae gan y drefn gwaith datblygu a ganiateir ar gyfer paneli solar derfynau gwahanol ar gyfer elfennau sy’n ymestyn allan ac ardaloedd gwarchodedig
- mae angen caniatâd cynllunio os bydd y ffenestr yn y to yn arwain at ddarparu teras ar y to, pa un a fyddai’n cynnwys rheiliau, ffensys neu ddulliau amgáu eraill ai peidio
Paneli solar: Cliciwch yma i weld cyfarwyddyd ar y drefn gynllunio a’r drefn rheoliadau adeiladu ar gyfer paneli solar.
Sylwer: mae’r lwfansau datblygu a ganiateir a ddisgrifir yma’n berthnasol i dai ac nid i fflatiau, maisonettes neu adeiladau eraill. Cliciwch yma i weld cyfarwyddyd ar fflatiau a maisonettes.
Dileu hawliau datblygu a ganiateir
Mae angen ichi wybod a yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu’r hawliau datblygu a ganiateir yn achos eich eiddo. Os yw’r hawliau hynny wedi’i dileu, rhaid ichi gyflwyno cais cynllunio ar gyfer y gwaith.
Mae’n bosibl bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu rhai o’r hawliau datblygu a ganiateir fel un o amodau’r caniatâd cynllunio gwreiddiol ar gyfer eich eiddo. Bydd yr wybodaeth hon ar gael yn y gofrestr gynllunio sy’n cael ei chadw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae’n bosibl hefyd y bydd hawliau datblygu a ganiateir wedi cael eu dileu drwy gyfrwng cyfarwyddyd 'Erthygl 4'. Mewn ardaloedd cadwraeth yn bennaf y gwelir cyfarwyddydau o’r fath, a hynny oherwydd y gallai gwaith datblygu nad yw’n cael ei reoli fygwth cymeriad ardal. Dylai’ch cyfreithiwr fod wedi rhoi gwybod ichi pan brynoch eich eiddo a oes cyfarwyddyd erthygl 4 arno ai peidio, ond gallwch holi’r Awdurdod Cynllunio Lleol os nad ydych yn siŵr.
Canllaw i ddeiliaid tai
Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi canllaw technegol, a chanllaw i ddeiliaid tai, sydd ar gael yma, i’ch helpu i ddeall sut y gallai’r rheolau datblygu a ganiateir fod yn berthnasol i’ch amgylchiadau chi.