Vaughan Gething Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rydym i gyd yn gweld sut y mae arloesi technolegol yn treiddio fwyfwy i bob rhan o’n bywydau pob dydd gan gynnwys dulliau rheoli’n hiechyd a gofalu amdano. Mae’r chwyldro hwn yn agor meysydd newydd o ran sut yr ydym yn deall, datgelu a thrin clefydau. Drwy’r arloesi hwn rydym yn cychwyn ar gyfnod newydd ym maes gofal iechyd a elwir meddygaeth ‘fanwl’ sy’n addo iechyd a gofal mwy personol byth. Mae datblygiadau yn nulliau dadansoddi DNA ar gyfer gwneud diagnosis o glefydau megis canser a’u trin mewn modd sydd wedi ei dargedu; profion pwynt gofal i reoli heintiau a’r defnydd ar ddeallusrwydd artiffisial i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau clinigol ynghyd â chofnodion iechyd sy’n ddigidol gysylltiedig yn rhai enghreifftiau yn unig o’r modd y mae technoleg eisoes yn cynorthwyo’r gwaith o roi gofal personol uniongyrchol.
Yng Nghymru, mae’n siwrnai tuag at feddygaeth fanwl yn mynd rhagddi’n dda ac rwy’n hyderus y gallwn fod yn geffyl blaen yn y ras fyd-eang i harneisio potensial meddygaeth fanwl ar gyfer iechyd dynol ac ar gyfer ffyniant cynyddol. Mae’n hollbwysig bod gennym ymagwedd gysylltiedig a chydweithredol at feddygaeth fanwl a bod ein hanes yn cael ei glywed yng Nghymru a’r tu allan iddi fel patrwm o arfer da a chydweithio i gyrraedd set gyffredin o nodau.
GIG Cymru ar fin sylweddoli’r manteision sylweddol y gellir eu sicrhau drwy ddarparu’r prawf neu’r driniaeth iawn i’r claf iawn ar yr adeg iawn. Bydd datblygiad parhaus meddygaeth fanwl yn ein helpu i liniaru’r costau cynyddol yr ydym yn eu hwynebu drwy ddarparu gofal iechyd rhagorol i boblogaeth sy’n heneiddio tra’r ydym yn darparu mwy o ofal yn nes i’r cartref. Mae’n cynllun hirdymor “Cymru Iachach” yn cydnabod pwysigrwydd symud tuag at ganfod ac ymyrryd yn gynharach gyda’r bwriad o atal salwch ac ymestyn annibyniaeth.
Yr elfennau hollbwysig ar gyfer ehangu meddygaeth fanwl a darparu gofal uchel ei werth yn gyson yw integreiddio diagnosteg a therapïau personol â data mawr (ee dysgu peirianyddol). Mae gennym eisoes sylfeini cadarn i ehangu’r dewisiadau ar gyfer atal, gwneud diagnosis a rhoi triniaeth sy’n fwy effeithiol.
Mae dwy elfen i’m gweledigaeth ar gyfer meddygaeth fanwl, sef diagnosteg integredig a therapiwteg ddatblygedig sydd wedi ei thargedu. Ar gyfer y ddwy elfen mae gennym weledigaeth genedlaethol glir sy’n nodi sut y byddem yn trawsnewid ein gwasanaethau i greu llwybrau gofal cynaliadwy uchel eu hansawdd sy’n wynebu’r dyfodol ac y mae lle ganddynt ar gyfer mwy o ymchwil, arloesi a phartneriaethau strategol.
Yn y GIG, rhaid i ddiagnosteg gael ei gosod mewn lle cadarn yn rheng flaen gofal cleifion. Os cawn wybod yn gynt beth yw’r diagnosis, gallwn fod yn fwy effeithiol wrth wneud ein penderfyniadau a darparu gofal a chymorth. Diagnosis cywir a phriodol yw’r bont ar gyfer gwneud penderfyniadau rhwng y clinigydd a’r claf a fydd yn arwain at ganlyniadau a phrofiadau gwell i gleifion. Rhaid i ni ymdrechu i wella’r broses o ragfynegi ac atal clefydau. Mae eisoes ystod eang o dechnolegau uwch sy’n gallu rhoi canlyniadau labordy a chanlyniadau delweddu o ansawdd uwch na’r rhai a oedd ar gael cyn hynny ddim ond ychydig o flynyddoedd yn ôl. Dros y 500 mlynedd diwethaf, mae gwaith archwilio darnau o feinweoedd a samplau gwaed wedi ei wneud drwy ddefnyddio microsgop a sleidiau gwydr. Er 2019, mae microsgopeg ddigidol wedi bod gennym ar gyfer samplau o feinweoedd patholeg ym mhob Bwrdd Iechyd Prifysgol. Gan adeiladu ar waith llwyddiannus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, bydd digidoleiddio gweithlifau patholeg yn gam cyntaf hollbwysig i harneisio’r potensial ar gyfer dulliau cyfrifiadurol o ddadansoddi delweddau patholeg. Hoffwn fod yn glir fan hyn ein bod yn trawsnewid arferion clinigol cyffredin sydd wedi bod yn eu lle ers cannoedd o flynyddoedd.
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi Datganiad o Fwriad sy’n nodi’n cynlluniau ar gyfer rhaglen genedlaethol i drawsnewid gwasanaethau patholeg, megis patholeg ddigidol, ledled Cymru. Mae hwn yn darparu’r fframwaith strategol ar gyfer gweithio gyda GIG Cymru a phartneriaid i lunio cynllun gweithredu a gyflwynir i mi ei ystyried yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
Y llynedd, cyhoeddais fframwaith strategol sy’n gosod gweledigaeth genedlaethol ar gyfer trawsnewid gwasanaethau delweddu ledled GIG Cymru. Blaenoriaeth gynnar oedd sefydlu’r Academi Ddelweddu Genedlaethol (Pencoed), a agorais y mis diwethaf. Rydym yn gweithio hefyd gyda GIG Cymru ar gynlluniau ar gyfer dull Cymru gyfan o fuddsoddi mewn sganwyr tomograffeg allyrru positronau, sy’n darparu delweddau hynod o gywir o glefydau. Y llynedd, drwy Wasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, gwnaethom gomisiynu ystod ehangach o sganiau PET yng Nghymru ac eleni rydym yn ehangu nifer y cyflyrau yr ydym yn eu sganio i fodloni’r sylfaen dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg. Dyma ddwy enghraifft yn unig ohonom yn gwneud yr hyn yr ydym yn sôn amdano. Bydd rhagor yn dilyn a bydd yn cynnwys ffyrdd newydd o weithio mewn modd amlbroffesiynol, rhannu delweddau yn well ledled Cymru a dadansoddi a chanfod clefydau yn gywir drwy ddeallusrwydd artiffisial.
Mae genomeg ddynol a genomeg bathogenau yn gydrannau pwysig o’r daith tuag at feddygaeth bersonol a byddant yn mireinio’r broses o ddiagnosio, trin ac atal clefydau yng Nghymru. Gan adeiladu ar y Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl a gyhoeddais yng Ngorffennaf 2017, bydd Partneriaeth Genomeg Cymru yn darparu’r sylfaen ar gyfer y seilwaith y mae ei angen i ddatblygu gwasanaethau genomig gyda'r gorau yn y byd i bobl Cymru. Mae cyflymder y newid ym maes genomeg yn syfrdanol. Rwyf wedi ymrwymo i wneud yn siŵr fod pobl yn gallu cael y profion genomig diweddaraf ac mae’n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi gallu darparu cyllid ychwanegol o £xx yn 2019-20 ar ben y £6.8M a gyhoeddwyd yn 2017. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n cydweithwyr yn y DU i wneud yn siŵr fod pobl yn gallu cael y prawf iawn pan fydd ei angen ac i sicrhau bod cyllid ymchwil ac arloesi’r DU ar gyfer genomeg er ein lles ein gilydd.
Bob wythnos bron, rydym yn clywed am driniaethau newydd ar gyfer clefydau drwy therapïau celloedd a genynnau. Mae ein dealltwriaeth o glefydau a’n gallu i lawdrin meinweoedd dynol yn cychwyn cyfnod newydd o therapiwteg ddatblygedig. Mae triniaethau meddygaeth aildyfu (therapïau bôn-gelloedd, golygu genynnau a therapïau genynnau) yn rhai sy’n ceisio amnewid, cyweirio neu aildyfu celloedd, meinweoedd ac organau’r corff. Mae nifer o’r triniaethau meddygaeth aildyfu datblygol yn cynnig triniaethau sydd o bosibl yn rhai iachaol neu hirdymor ar gyfer clefydau cronig, yn ogystal â chyfleoedd newydd ar gyfer therapiwteg ganser bersonol drwy ddefnyddio celloedd imiwn y claf ei hun. O dderbyn yr angen i sicrhau parodrwydd y system iechyd i roi’r therapïau hyn ar waith wrth i’r nifer a’r ystod ohonynt ehangu dros y blynyddoedd nesaf, rwyf wedi cyhoeddi heddiw hefyd ein Datganiad o Fwriad ar gyfer Cynhyrchion Meddyginiaethol Therapiwteg Datblygedig. Mae hwn yn nodi ein bwriad i lunio a chyflwyno dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer therapiwteg fanwl yng Nghymru. Byddwn yn adeiladu ar gynnig llwyddiannus Cronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol y DU i gefnogi Canolfan Triniaethau Therapïau Datblygedig, i weithio gyda GIG Cymru, diwydiant a phartneriaid academaidd i lunio cynllun gweithredu a fydd yn rhoi adroddiad imi yn ddiweddarach eleni.
Yn gydnaws â therapïau manwl, ymwelais heddiw â Chanolfan Ganser Rutherford yng Nghasnewydd lle y byddant yn darparu therapi pelydrau proton ar gyfer rhai achosion canser ymhlith oedolion. Mae Therapi Pelydrau Proton yn dechneg radiotherapi a dargedir yn fanwl ac a fydd yn gymorth i drin cleifion a chanddynt ganserau a fyddai fel arall yn anodd i’w trin. Mae’r berthynas â’r Ganolfan yn un newydd ac yn dangos sut yr ydym yn cydweithredu er gwella cleifion yng Nghymru fel bod modd iddynt gael y driniaeth hon yn lleol.
Mae cyfleoedd enfawr i gefnogi’r gwaith o ofalu am gleifion drwy ddefnyddio data digidol a’n gallu i ddehongli’r wybodaeth mewn ffordd ystyrlon a gwerthfawr. Bydd maint, ansawdd a pherthnasedd yr wybodaeth am gleifion sy’n cael ei chasglu heddiw, gyda’r addewid y bydd rhagor yfory, yn hollbwysig ar gyfer gwella manylder diagnosisau meddygol a thriniaeth. Rydym eisoes yn casglu a choladu symiau sylweddol o ddata am gleifion ac yn gofalu yn ddiogel amdanynt drwy’r cofnod electronig am gleifion a’r Sefydliad Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw a gynhelir gan Lywodraeth Cymru. Byddwn hefyd yn gallu cipio a storio llawer iawn o ddata meintiol o ddelweddau meddygol eglur iawn ac mae camau breision i’w cymryd drwy ddadansoddi canlyniadau’r delweddau gweledol gan ddefnyddio algorithmau diagnostig a fydd yn helpu i ostwng amrywioldeb mewn diagnosis. Dros amser, bydd cymhwyso technegau dysgu dwfn a deallusrwydd artiffisial i’r data mawr yn rhoi i glinigwyr ac ymchwilwyr meddygol y gallu i ganfod cysylltiadau a phatrymau na fyddent yn amlwg petai’r setiau data yn llai ac yn golygu dehongli dynol yn unig.
Un o’r gofynion trawsbynciol mwyaf brys yw’r angen am seilwaith gwybodeg gwell fel bod modd casglu, storio, rhannu, integreiddio a dadansoddi’r symiau enfawr o ddata cleifion. Heb y buddsoddiad sylfaenol mewn platfformau gwybodeg ac atebion ar ffurf meddalwedd bydd cynnydd tuag at fwy o bersonoleiddio yn dod i ben. Mewn cyfnod sy’n datblygu’n gyflym ym meysydd dysgu data a dysgu peirianyddol, bydd yn hollbwysig i atebion gwybodeg ein system iechyd fod yn ddigon chwim ac ystwyth i ymateb i alluoedd datblygol y technolegau iechyd biofeddygol a digidol newydd hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r ymgyrch hon drwy ein strategaeth ddigidol a thrwy fuddsoddi yn natblygiad yr Adnodd Data Cenedlaethol.
Bydd datgloi’r cyfleoedd go iawn a ddaw o feddygaeth fanwl a deallusrwydd artiffisial yn gofyn am fwy byth o gydweithredu ag arloeswyr o ddiwydiant a’r byd academaidd, yn ogystal ag ymgysylltu ystyrlon â chleifion a’r cyhoedd, i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau ar y cyd a grymuso cleifion. Wrth i bawb ymrwymo i’r daith hon, gallwn feithrin diwylliant ymddiriedaeth a fydd yn treiddio drwy ofal iechyd ac yn sicrhau bod technolegau newydd yn cael eu hintegreiddio’n gyflym er lles cleifion.
Mae’n ffodus bod gennym eisoes glwstwr cryf o gwmnïau gwyddor bywyd a all helpu i gynnal ein taith i’r cyfnod meddygaeth fanwl. Mae cryfder, dyfnder a chydweithio agos yn nodweddu’n perthnasoedd â’n partneriaid academaidd yng Nghymru, y mae gan lawer ohonynt fri cenedlaethol a rhyngwladol ym maes meddygaeth fanwl. Rwy’n awyddus i ni adeiladu ar ein sylfaen gadarn a’n bri rhyngwladol o ragoriaeth mewn ymchwil glinigol a gweithgarwch diwydiannol a mynd ati i gryfhau ymhellach ein safle cenedlaethol a rhyngwladol ym maes meddygaeth fanwl.
Byddwn yn ymchwilio’n drylwyr i gyfleoedd megis Bargen Dinas-ranbarth Caerdydd a’r rhai sy’n ymddangos o du Llywodraeth y DU drwy fargen y Sector Strategaeth Ddiwydiannol a Gwyddorau Bywyd nid yn unig er budd pobl Cymru, ond hefyd er mwyn i ni chwarae ein rhan yn y chwyldro byd-eang hwn. Byddwn yn defnyddio ‘cydweithredu cenedlaethol’ a ‘dull lefel-system’ i greu echel o gynnydd ym maes meddygaeth fanwl, gan hybu a chreu cyfleoedd i eraill weithio gyda ni ar y daith hon.
Bydd f’uchelgais i ehangu meddygaeth fanwl a gosod diagnosteg yn rheng flaen gofal yn arwain at ofal cleifion uwch ei werth. Mae’n gallu i gipio a harneisio’r buddion sylweddol o ddatblygiadau dyfodol mewn diagnosteg a therapïau personol, ynghyd â deallusrwydd artiffisial pwerus, yn hollbwysig os ydym am wella’r canlyniadau i gleifion a helpu i liniaru ar y pwysau ariannol sylweddol y mae’n system iechyd yn eu hwynebu bob dydd. Mae cydweithredu rhwng ein holl bartneriaid sy’n ymwneud â’r mentrau hyn yn hollbwysig er mwyn sicrhau y bydd meddygaeth fanwl yn creu’r sylfeini ar gyfer system iechyd sy’n dysgu ac a fydd yn hybu gwelliant, ymchwil ac arloesi parhaus mewn ymarfer gofal iechyd.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.