Ken Skates , Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Er inni ofyn i Lywodraeth y DU dro ar ôl tro i sicrhau na fyddem yn ymadael â'r UE heb gytundeb, mae'r posibilrwydd hwnnw 3 diwrnod i ffwrdd. Dylai'r aelodau felly fod yn ymwybodol o gynllun wrth gefn Llywodraeth Cymru ar gyfer unrhyw darfu yng Nghaergybi os digwydd Brexit Heb Gytundeb. Os na cheir cytundeb, bydd nwyddau o'r Deyrnas Unedig yn cael eu trin fel pe baent yn dod o “drydedd wlad” wrth iddynt fynd i mewn i'r UE, a bydd archwiliadau ychwanegol yn cael eu cynnal arnynt yn Iwerddon. Gallai hynny arwain at oedi cyn i fferïau fedru hwylio ac at sefyllfa lle bydd cerbydau’n cronni yng Nghaergybi.
Er bod lliniaru effaith Brexit Heb Gytundeb yn llawn yn amhosibl, rydym wedi blaenoriaethu y gwaith o gydweithio â phartneriaid yng Ngogledd Cymru i leihau'r tarfu yng Nghaergybi. Un o'r prif ystyriaethau hefyd drwy gydol y broses hon oedd yr angen i sicrhau bod teithio ar y fferi rhwng Caergybi a Dulyn yn dal i fod mor ymarferol a deniadol ag y bo modd i gludwyr nwyddau, tra'n sicrhau y dylai'r cyhoedd sy'n teithio wynebu cyn lleied â phosibl o darfu ychwanegol.
Er bod lle eisoes i 660 o Gerbydau Nwyddau Trwm ym Mhorthladd Caergybi, bydd y cynlluniau hyn, sydd wedi'u cymeradwyo gyda phartneriaid ledled Gogledd Cymru, yn sicrhau bod cyn lleied o effaith â phosib ar y dref a'r ardal gyfagos, pe byddai tarfu sylweddol.
Bydd cerbydau nwyddau trwm yn cael eu cyfeirio i safle gwasanaethau Roadking ym Mharc Cybi, yn agos i fynedfa'r porthladd. Mae lle i 175 o gerbydau nwyddau trwm ar y safle hwn, ac mae yno hefyd gyfleusterau lles ar gyfer y gyrwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi trefnu parcio di-dâl ar gyfer traffig cludo nwyddau a fydd yn teithio i Ddulyn, a bydd trefniadau rheoli traffig yn eu lle er mwyn cyfeirio'r cerbydau i'r safle heb unrhyw oedi. Bydd Swyddogion Traffig ychwanegol ar gael 24/7.
Bydd modd hefyd defnyddio'r ffyrdd o amgylch Parc Cybi os bydd angen, gyda lle ar gyfer 30 o gerbydau nwyddau trwm eraill. Os na fydd yr holl leoedd hyn yn ddigon, rydym wedi datblygu cynllun arall wrth gefn, lle bydd cerbydau nwyddau trwm yn cael parcio ar gerbytffordd yr A55 i gyfeiriad y gorllewin yng Nghaergybi (Cyffyrdd 2-3).
Mae'n annhebygol iawn y bydd y trydydd opsiwn ar yr A55 yng Nghaergybi yn cael ei ddefnyddio, ond mae'n bwysig bod y cynllun wrth gefn hwn ar gael inni os bydd oedi difrifol yn y porthladd. Dyma'r rhan fwyaf tawel o'r A55, a hyd yn oed os defnyddir yr opsiwn hwn, disgwylir mai ychydig iawn o effaith y bydd yn ei chael ar y cyhoedd wrth iddynt deithio.
O dan amodau ymadael Heb Gytundeb, bydd opsiynau Roadking a Pharc Cybi ar gael o 12 Ebrill ymlaen a gall opsiwn yr A55 fod ar gael o 15 Ebrill ymlaen os bydd angen, er mai go brin y bydd angen ei ddefnyddio.
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn y ddogfen Cwestiynau Cyffredin sydd ar gael nawr ar wefan Paratoi Cymru.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os yw'r aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.