Mae Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, wedi cyhoeddi £3.4m ychwanegol i ehangu Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad, gan ddarparu cymorth i 14,000 o ddysgwyr ychwanegol.
Wedi’i gyflwyno yn 2018, mae’r grant hwn yn helpu teuluoedd i dalu am wisg ysgol a chit chwaraeon yn ogystal â chyfarpar ar gyfer gweithgareddau y tu allan i’r ysgol, gan gynnwys clybiau chwaraeon a thripiau dysgu awyr agored. Mae’n gyllid sy’n helpu teuluoedd sydd ei angen fwyaf gyda rhai o gostau’r diwrnod ysgol.
Mae’r buddsoddiad ychwanegol yn golygu y bydd teuluoedd disgyblion Blwyddyn 7, os ydynt yn gymwys, yn derbyn £200, yn lle’r £125 y maen nhw’n ei gael ar hyn o bryd, gan liniaru rhai o’r costau uwch sy’n gysylltiedig â dechrau yn yr ysgol uwchradd.
Bydd y cyllid hefyd yn ei gwneud yn bosibl cynnwys plant cymwys ym Mlwyddyn 3 ac ym Mlwyddyn 10, a bydd yn helpu plant sy’n derbyn gofal ym mhob blwyddyn ysgol orfodol.
Bydd y cyllid, felly, ar gael i garfan lawer ehangach o ddysgwyr, gan sicrhau cymorth i fwy o rieni sydd ei angen ar yr union adeg y mae ei angen arnynt.
Gall awdurdodau lleol hefyd weinyddu cronfa i ddatblygu opsiynau hirdymor mwy cynaliadwy. Rydym yn ehangu hyn y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth i gynnwys grwpiau fel clybiau ieuenctid i wneud ceisiadau am lefydd i storio cit.
Roedd ehangu’r Grant Datblygu Disgyblion yn rhan allweddol o’r cytundeb blaengar rhwng Prif Weinidog Cymru a Kirsty Williams.
Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Kirsty Williams:
“Mae torri’r cylch tlodi ac anfantais yn hollbwysig, ac mae’n ganolog i’n hymgyrch genedlaethol i godi safonau ar gyfer pob un o’n dysgwyr.
“Bydd yr arian ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw yn golygu bod mwy o ddysgwyr yn gymwys i gael cyllid, ac y bydd mwy o arian ar gael i rieni plant sy’n mynd o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd, sydd, fel rydyn ni’n gwybod, yn gallu bod yn gyfnod drud.”
Mae’r Grant Datblygu Disgyblion eisoes wedi’i ddisgrifio fel grant “amhrisiadwy” gan ysgolion, ac mae Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad yn caniatáu inni gymryd y cam pellach hwnnw i gefnogi ein dysgwyr difreintiedig i gyflawni eu potensial a’u helpu i ddarganfod yr hyn maen nhw wir am ei gyflawni.”