Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, wedi cyhoeddi’r opsiynau a ffefrir ganddo i ddisodli’r unig ddwy gylchfan ar yr A55 gyda chyffyrdd wedi’u huwchraddio.
Ar ôl ystyried yn llawn elfennau technegol, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y cynllun a gwrando’n ofalus ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad, dewiswyd Opsiwn D fel y llwybr dewisol i ddisodli’r gylchfan ar Gyffordd 15 Llanfairfechan ac Opsiwn A ar gyfer Cyffordd 16 Penmaenmawr a Dwygyfylchi.
Byddai Opsiwn D yn sicrhau symud ar ac oddi ar yr A55 i bedwar cyfeiriad, dau tua’r dwyrain a dau tua’r gorllewin, yng nghyffordd 15 tra’n defnyddio trosbont gyda chyffordd-T i’r gogledd o’r A55 a chyffordd a fyddai’n cael blaenoriaeth i’r de o’r gylchfan bresennol. Byddai’r slipffyrdd ar y gogledd yn cael eu codi’n lleol fel y gallai pont fynd dros yr A55.
Fel yr amlinellwyd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ac mewn arddangosfeydd, byddai pob opsiwn ar gyfer cyffordd 15 yn effeithio’n uniongyrchol ar eiddo yn yr ardal. Gwnaed gwaith pellach ar Opsiwn D yn dilyn sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus gan olygu y byddai llai o eiddo na’r hyn a ragwelwyd yn y lle cyntaf – bellach, byddai tri eiddo (deg fflat i gyd), yn cael eu heffeithio’n llwyr. Mae dau adeilad pellach sy’n cynnwys chwe fflat i gyd mewn perygl hefyd, yn amodol ar arolygon pellach. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda thenantiaid a’r awdurdod lleol i liniaru effeithiau dymchwel eiddo.
O ran Cyffordd 16, byddai Opsiwn A yn darparu symudiadau pedair ffordd, gan ddisodli cyffordd 16A. Byddai’r gylchfan yng nghyffordd 16 yn cael ei disodli gan slipffyrdd ar ac oddi ar tua’r gorllewin. Byddai trefniant cyffordd 16 yn cynnwys trosbont a byddai slipffyrdd yn cael eu hadeiladu ar argloddiau wedi’u codi. Bydd ffordd gyswllt newydd yn cael ei hadeiladu, gan redeg ochr yn ochr â’r A55, gan gysylltu yn ôl â Ffordd Ysguborowen.
Daeth arfarniad WelTAG i’r casgliad mai’r ddau opsiwn oedd yn perfformio orau yn erbyn amcanion y prosiect a meini prawf WelTAG.
Bydd arddangosfa o wybodaeth i’r cyhoedd yn cael ei chynnal yn ystod yr haf i arddangos ac egluro’r opsiynau dewisol ynghyd â’r camau nesaf. Bydd rhagor o wybodaeth am y rhain yn cael ei chyhoeddi maes o law.
Camau nesaf y cynllun fydd datblygu’r dyluniad rhagarweiniol, sy’n ystyried materion amgylcheddol a pheirianyddol yn fanylach, gan ystyried y sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys adolygiad manylach o’r opsiynau a ffefrir mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid sy’n cynnwys pobl leol.
Y ddwy gylchfan ar Gyffyrdd 15 ac 16 yw’r unig ddwy ar brif linell Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd Euroroute E22 sy’n rhedeg rhwng Moscow a Dulyn. Mae astudiaethau trafnidiaeth a gynhaliwyd ar hyd yr A55 wedi dangos bod y cylchfannau hyn yn cael effaith negyddol ar y coridor rhwydwaith hwn.
Bydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru, gan gynnwys £26 miliwn o gyllid yr UE, i ddisodli’r cylchfannau hyn gyda chyffyrdd yn gwella amseroedd a diogelwch teithio a hefyd yn cryfhau cydnerthedd yr A55. Gallai’r gwaith adeiladu gychwyn yn 2021.
Meddai Ken Skates:
“Mae’r cynllun gwella ar gyfer Cyffyrdd 15 a 16 yn rhan bwysig o’n cynlluniau i wella seilwaith trafnidiaeth y Gogledd. Mae hefyd yn enghraifft ragorol arall o sut mae Cymru yn elwa ar gronfeydd yr UE.
“Mae’r A55 yn llwybr allweddol sy’n cysylltu’r Gogledd â gweddill Ewrop a’r byd ac mae’n hollbwysig ein bod yn gwella ei gydnerthedd a’i ddiogelwch yn ogystal â sicrhau gwell amseroedd teithio a lleihau oedi.
“Mae’n amlwg bod y cylchfannau presennol yn effeithio ar gyflymder cyfartalog ar hyd yr A55 lle mae angen i gerbydau arafu drwy’r gyffordd ac yna cyflymu wrth adael. Yn sgil y traffig ar yr A55, mae mynediad o Lanfairfechan, Penmaenmawr a Dwygyfylchi drwy’r cylchfannau hefyd yn anodd ac mae pobl yn aml yn gorfod ciwio. Byddai’r opsiynau a ffefrir a gyhoeddaf heddiw yn cael gwared ar yr anawsterau hyn.
“Hefyd, byddai’r cynllun newydd yn gwella mynediad i farchnadoedd rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol sy’n hanfodol wrth i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.
“Byddwn yn ymgysylltu’n agos â phreswylwyr sy’n cael eu heffeithio gan y cyhoeddiad yma heddiw, i liniaru unrhyw effaith a sicrhau eu bod yn parhau yn rhan bwysig o’r camau nesaf sy’n hollbwysig wrth ddatblygu’r cynllun hwn ymhellach.
“Dros y blynyddoedd nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi cannoedd ar filiynau o bunnoedd yn seilwaith trafnidiaeth y rhanbarth a fydd yn rhoi hwb economaidd, yn gwella cysylltiadau ar gyfer cymunedau ac yn darparu rhwydwaith ffyrdd modern.”