Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi bod Martin Woodford wedi'i benodi’n Gadeirydd newydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru am gyfnod o dair blynedd.
Dywedodd Mr Gething:
“Rwy'n falch iawn o gyhoeddi bod Martin Woodford wedi'i benodi'n Gadeirydd newydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Mae Mr Woodford yn dod â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i'r rôl hon. Mae'n gyfnod pwysig a heriol i'r GIG yng Nghymru wrth i ni geisio darparu gwasanaeth iechyd sy'n addas ar gyfer y dyfodol, a bydd gwybodaeth, ymroddiad a brwdfrydedd Martin Woodford yn helpu i hybu’r gwaith hwnnw.”
Dywedodd Martin:
"Rwyf wrth fy modd ac yn ei theimlo’n anrhydedd cael fy mhenodi’n Gadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Yn ystod fy amser gyda'r Ymddiriedolaeth hyd yma, mae ymroddiad ein gweithlu wedi gwneud argraff fawr arnaf.
Fy nhasg fel Cadeirydd dros y tair blynedd nesaf, gyda fy Mhrif Weithredwr a'n cyd aelodau ar y Bwrdd, fydd cefnogi ein staff i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r cyhoedd yng Nghymru. Mae heriau yn bodoli, a rhoddwyd llawer o gyhoeddusrwydd i hyn, ond rwy'n hyderus drwy gydweithio gyda'n staff ac Undebau Llafur yn fewnol a'n partneriaid allanol, y gallwn wireddu ein huchelgais."
Mae gan Martin, a ymunodd â'r gwasanaeth yn 2014, dros 30 mlynedd o brofiad mewn llywodraeth leol a gofal iechyd. Roedd yn Brif Weithredwr yn Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd Powys cyn ad-drefnu, ac yn fwy ddiweddar bu'n Brif Weithredwr yn hen Ymddiriedolaeth Ysbyty Henffordd, a ddaeth yn Ymddiriedolaeth GIG Dyffryn Gwy wedi hynny.
Mae Martin wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Anweithredol ac Is-gadeirydd yn flaenorol, ac yn 2018 cafodd ei benodi’