Canllawiau sy’n amlinellu’r meini prawf i’w hystyried wrth benderfynu a ddylid defnyddio gweithdrefn gadarnhaol ddrafft neu negyddol.
Dogfennau
Manylion
Defnyddir y weithdrefn gadarnhaol ddrafft lle na ellir gwneud yr offeryn os nad oes fersiwn ddrafft o’r offeryn wedi’i gosod a’i chymeradwy gan benderfyniad y Cynulliad. Defnyddir y weithdrefn negyddol pan ellir gwneud yr offeryn, ac y gall ddod i rym, ond bod yn rhaid iddo gael ei osod gerbron y Cynulliad. Gall hefyd gael ei ddirymu gan benderfyniad y Cynulliad.
Mae’r Canllawiau hyn yn berthnasol pan fo:
- Llywodraeth Cymru yn ceisio’r pŵer i wneud offeryn statudol yn un o Filiau’r Cynulliad
- Llywodraeth Cymru yn ceisio pŵer o’r fath yn un o Filiau Seneddol y DU
- deddfiad yn cynnig dewis rhwng gweithdrefn gadarnhaol a gweithdrefn negyddol y Cynulliad ar gyfer offeryn statudol.