Ymwelodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, ag Ysgol Gynradd Darren Park yng Nglynrhedynog heddiw i dynnu sylw at ymgynghoriad newydd Llywodraeth Cymru ar Gynllun Dychwelyd Ernes (DRS) ar gyfer cynwysyddion diodydd.
Mae'r ysgol yn un o lawer o eco-ysgolion yng Nghymru, ac mae ei heco-bwyllgor wedi bod yn gweithio i leihau faint o blastig mae'n ei ddefnyddio, ac mae'r ysgol yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd casglu sbwriel yn yr ardal yn rheolaidd.
Pe bai DRS yn cael ei gyflwyno yng Nghymru, byddai disgwyl i siopwyr dalu ernes ar gynwysyddion diodydd plastig, gwydr a metel (ac eithrio cynhwysyddion llaeth), a byddai'n rhaid iddynt fynd â chynwysyddion gwag yn ôl i fannau casglu er mwyn cael eu hernes yn ôl, yn hytrach na defnyddio'r gwasanaethau casglu gwastraff sy'n cael eu darparu gan eu cynghorau.
Anogodd y Dirprwy Weinidog yr eco-bwyllgor i ymateb i'r ymgynghoriad, sydd bellach wedi cael ei grynhoi a'i wneud ar gael i'r holl eco-ysgolion yng Nghymru. Mae'n gofyn i ddisgyblion a ydynt yn credu y byddai pobl yn fodlon talu mwy am ddiod a chael yr arian yn ôl pan fyddant yn mynd â'r cynhwysydd yn ôl i siop, neu ydynt yn credu y byddai'n well gan bobl barhau â'r system gyfredol lle maent yn rhoi eitemau allan i gynghorau eu casglu.
Dywedodd Hannah Blythyn:
Mae wedi bod yn bleser mawr ymweld ag Ysgol Gynradd Darren Park heddiw, a siarad â'r disgyblion am y defnydd o blastig a manteision ac anfanteision Cynllun Dychwelyd Ernes. Mae pob un ohonyn nhw wedi dangos llawer o ddiddordeb yn y drafodaeth, ac wedi cynnig syniadau gwych mewn perthynas â sut gallwn ni leihau ein gwastraff plastig ac annog rhagor o bobl i ailgylchu.
Os ydyn ni'n gallu sicrhau bod osgoi defnyddio plastig untro ac ailgylchu cymaint ag y bo modd yn ail natur i'r genhedlaeth nesaf, byddwn ni wedi gwneud cam mawr tuag at wella ein hamgylchedd. O farnu wrth y drafodaeth heddiw, mae'r dyfodol mewn dwylo diogel iawn. Mae'r plant wedi ymrwymo i helpu i sicrhau mai Cymru yw prif wlad y byd ar gyfer ailgylchu, ac i sicrhau bod ein cymunedau hefyd yn derbyn yr her.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhan o ddau gydymgynghoriad arall, sy'n cynnwys y DU gyfan. Nod y cyntaf, ar Gyfrifoldeb Estynedig y Cynhyrchydd, yw sicrhau bod cynhyrchwyr yn ysgwyddo'r gost o reoli gwastraff y cynhyrchion maent yn eu rhoi ar y farchnad, yn unol â'r egwyddor 'y llygrwr sy'n talu'. Mae'r ail yn gosod treth ar gynhyrchu a mewnforio deunyddiau pacio plastig nad ydynt yn cynnwys o leiaf 30% o blastig wedi'i ailgylchu.
Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog:
Mae gwastraff plastig a deunyddiau pacio gwastraff yn faterion pwysig – ar gyfer pawb, dim ein plant yn unig. Bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig rydyn ni'n cynhyrchu cyfanswm o tua 11 miliwn tunnell o wastraff deunyddiau pacio – mae 2.3 miliwn tunnell o'r gwastraff hwn yn wastraff plastig.
Mae Cymru yn un o arweinwyr y byd ym maes ailgylchu – ond rydyn ni am fynd ymhellach. Rydyn ni am gymryd camau i leihau faint o ddeunyddiau pacio rydyn ni'n eu defnyddio, a rhoi cymhellion ar gyfer dylunio cynhyrchion a deunyddiau pacio'n well fel ein bod yn gallu eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu'n hawdd. Gallai hyn ysgogi cyfleoedd economaidd ar gyfer Cymru ac ategu ein nod i fod yn economi fwy cylchol.
Felly, hoffwn i annog pobl yng Nghymru i ddarllen yr ymgynghoriadau ac ymateb iddyn nhw i sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed ar y materion hyn.