Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, wedi croesawu casgliadau'r gwerthusiad annibynnol o Wasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.
Wrth annerch y Gynhadledd Genedlaethol ar Awtistiaeth yn Stadiwm Liberty heddiw (3 Ebrill) yn Abertawe, dywedodd y Gweinidog Iechyd:
“Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith o ddatblygu gwasanaethau awtistiaeth newydd ac arloesol, gyda’r nod o wella'r ddarpariaeth awtistiaeth. Er mwyn sicrhau bod ein diwygiadau'n arwain at y canlyniadau yr ydyn ni i gyd am eu gweld, aethon ni ati i gomisiynu gwerthusiad annibynnol.”
Roedd yr adolygiad yn cynnwys cynnal cyfweliadau a thrafodaethau gydag oedolion sydd ar y sbectrwm awtistig, rhai ohonynt hefyd yn rhieni i blant sydd ag awtistiaeth, yn ogystal ag aelodau o'u teuluoedd a gofalwyr.
Daeth y gwerthusiad i'r casgliad bod y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig, a gafodd ei sefydlu yng Nghaerdydd a'r Fro, Cwm Taf, Gwent a Phowys yn darparu gwasanaeth gwerthfawr angenrheidiol. Hefyd, mae gwasanaethau yn y Gorllewin a Bae'r Gorllewin bellach wedi agor.
Daethpwyd i'r casgliad bod llwybrau diagnostig cyson ar waith i oedolion a fyddai’n elwa ar y Gwasanaeth Awtistiaeth, er bod angen gwneud rhagor o waith i sicrhau bod llwybrau clir at wasanaethau eraill, megis gwasanaethau iechyd meddwl.
Roedd y gwerthusiad hefyd yn dangos bod y Gwasanaeth wedi cynyddu capasiti a gwella ansawdd y gwasanaethau asesu a diagnosis i oedolion. Bu cynnydd hefyd yng nghapasiti’r gwasanaethau asesu a diagnosis i blant, a bu gwella yn eu hansawdd, drwy sefydlu Gwasanaethau Niwroddatblygiadol newydd i blant.
Dangosodd y gwerthusiad fod y rhagolygon ar gyfer y dyfodol yn galonogol, cyn belled â bod y gwasanaethau'n gallu ymdopi â'r galw, cadw eu staff, a sicrhau cyllid ar gyfer y gwasanaeth ar ôl 2021.
Ym mis Medi y llynedd, gofynnwyd i'r adolygiad ganolbwyntio ar ymchwilio i'r rhesymau pam yr oedd yr amseroedd aros yn parhau'n hir yn y Gwasanaethau Niwroddatblygiadol i blant a'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol. Gofynnwyd iddo ymchwilio i'r posibiliadau o gysoni Gwasanaethau Niwroddatblygiadol. Bydd casgliadau'r ymchwil ychwanegol hon yn cael ei chyhoeddi ddechrau'r haf.
Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd:
“Dw i wedi ymrwymo i gyflymu’r gwaith o ddiwygio’r ddarpariaeth awtistiaeth. Dw i wedi cyhoeddi bod cyllid newydd wedi ei neilltuo i’r tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ar gyfer y tair blynedd nesaf.
“Bydd yr adolygiad, ynghyd â’i argymhellion, yn ein helpu i ddatblygu ein Cod Ymarfer ar gyfer Darparu Gwasanaethau Awtistiaeth, a bydd hwnnw’n cryfhau ac yn ategu’r gwelliannau yr ydyn ni’n eu cyflawni, gan ein helpu i nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth a rhoi sylw iddyn nhw.”