Data am nifer yr aelwydydd a wnaeth gais i awdurdodau lleol am gymorth tai o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a nifer yr aelwydydd digartref mewn llety dros dro ar gyfer Hydref i Ragfyr 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Ystadegau digartrefedd
Prif bwyntiau (a)
Weithiau, caiff data chwarterol ei ddiwygio ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ac felly dylid trin y data â gofal.
Aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref (b)
Roedd 2,481 o aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod. Mae’r ffigwr hwn yn uwch na’r chwarter blaenorol ond y is na’r un chwarter yn 2018.
Llwyddwyd i atal digartrefedd am o leiaf chwe mis mewn 67% o achosion. Mae’r cyfraddau atal chwarterol wedi amrywio o fewn yr ystod 65% i 70% ers Ebrill 2017.
Aelwydydd digartref a bod dyletswydd i’w cynorthwyo i ganfod llety (c)
Roedd 3,231 o aelwydydd yn ddigartref a bod dyletswydd i’w helpu i gael llety. Mae hyn 11% yn uwch na’r chwarter flaenorol, a’r ffigwr uchaf i’w gofnodi ers dechrau cofnodion yn Ebrill 2015.
O’r rhain, cafodd 43% eu cynorthwyo yn llwyddiannus i ganfod llety. Mae’r gyfradd lwyddiannus chwarterol wedi amrywio o fewn yr ystod 39% i 43% ers Ebrill 2017.
Aelwydydd digartref oedd yn anfwriadol ddigartref a’u bod mewn angen oedd yn flaenoriaeth (d)
Roedd 738 o aelwydydd digartref yn anfwriadol ddigartref ac mewn angen oedd yn flaenoriaeth.
O’r rhain, derbyniodd 80% gynnig o lety sefydlog, addas. Mae’r gyfradd chwarterol wedi amrywio o fewn yr ystod 74% i 82% ers Ebrill 2017.
Aelwydydd mewn llety dros dro
Roedd 2,262 o aelwydydd mewn llety dros dro ar 31 Rhagfyr 2019. Er bod hyn yn gynnydd ar y chwarter blaenorol, dyma’r ail nifer uchaf ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth yn 2015. Parhaodd y sector rhentu preifat i fod y prif fath o lety dros dro a ddefnyddiwyd (39%).
Roedd 366 o aelwydydd mewn llety gwely a brecwast. Eto mae hyn yn rhywfaint o gynnydd ar y chwarter flaenorol, ond dyma’r ail nifer uchaf ers Ebrill 2015. O’r 366 aelwyd yma, roedd 48 o aelwydydd yn deuluoedd gyda phlant, i lawr o 63 ar ddiwedd Medi 2019.
Nodiadau
(a) Gall amrywiadau chwarterol a ffactorau tymhorol megis gwyliau a’r tywydd effeithio ar y data. Nid yw’r ystadegau yma yn cael eu haddasu yn dymhorol. Weithiau, caiff data chwarterol ei ddiwygio ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ac felly dylid trin y data â gofal.
(b) Atal digartrefedd yw pan fo awdurdod lleol yn cymryd camau cadarnhaol i ddarparu cymorth tai i rywun y mae'r awdurdod o'r farn ei fod mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod.
(c) Yn dilyn hysbysiad bod ymgeisydd yn ddigartref, bydd yr awdurdod lleol o dan ddyletswydd (adran 73) i gymryd camau rhesymol i helpu i sicrhau llety.
(d) Os yw'r aelwyd yn ddigartref, bod ganddi angen blaenoriaethol a'i bod yn ddigartref yn anfwriadol, bydd yr awdurdod lleol o dan ddyletswydd i sicrhau llety addas.
Ceir gwybodaeth bellach yn yr Adroddiad Ansawdd.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.