Mae'r canllaw strategol ynghylch ffynonellau ynni rhad-ar-garbon neu ddi-garbon, sy'n dwyn y teitl 'Low or Zero Carbon Energy Sources: Strategic Guide (LZC)', o blaid cynnwys ffynonellau ynni rhad-ar-garbon neu ddi-garbon yn Rhan L y Rheoliadau Adeiladu a Dogfennau Cymeradwy L1A, L1B, L2A a L2B. Mae Pennod 4 yn ymdrin â systemau microgynhyrchu gwres a phŵer cyfun.
Bydd systemau microgynhyrchu gwres a phŵer cyfun yn gweithredu yng nghyd-destun yr adeilad, felly bydd yn rhaid i'r offer, y gwaith gosod a'r gwaith profi gydymffurfio â'r safonau perthnasol. Caiff manylion y safonau hynny eu hegluro'n llawn yn y canllaw strategol ynghylch ffynonellau ynni rhad-ar-garbon neu ddi-garbon.
Yn ogystal, mae'r canllaw yn egluro'r ffactorau y dylid eu hystyried at ddibenion cyfrifo potensial system microgynhyrchu gwres a phŵer cyfun i gyfrannu at leihau allyriadau carbon deuocsid adeilad, er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni gofynion Rhan L o ran cydymffurfio.
Bydd rheoliadau adeiladu hefyd yn berthnasol i agweddau eraill ar y gwaith, megis y gwaith trydanol a’r gwaith plymio. Cynghorir i chi gysylltu â gosodwr all ddarparu cyngor angenrheidiol, os oes modd, un sy’n perthyn i’r Cynllun Person Cymwys.