Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd ddifrifol. Mae'n cynnwys caethwasiaeth, caethwasanaeth, neu lafur dan orfod neu lafur gorfodol a masnachu pobl. Gall dioddefwyr caethwasiaeth fodern fod yn wynebu mwy nag un math o gamdriniaeth a chaethwasiaeth, er enghraifft os ydyn nhw'n cael eu gwerthu i fasnachwr arall a hwnnw'n eu gorfodi i oddef math arall o ecsbloetiaeth.
Mae unigolion yn cael eu masnachu os yw pobl eraill yn dod â nhw i wlad neu'n eu symud o le i le yn y wlad, a bod y rheini'n eu bygwth, yn codi ofn arnynt, yn eu brifo ac yn eu gorfodi i weithio neu i wneud pethau eraill nad ydyn nhw'n dymuno'u gwneud.
Cael help os ydych chi'n meddwl eich bod yn dioddef hyn
Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn yn darparu cymorth a chyngor ar gyfer:
- unrhyw un sy'n dioddef caethwasiaeth fodern, cam-drin domestig neu drais rhywiol
- pobl sy'n adnabod rhywun sydd angen cymorth
- ymarferwyr sydd angen cyngor proffesiynol
Cysylltwch â chynghorwyr Byw Heb Ofn am ddim ar y ffôn, drwy sgwrsio ar-lein, neu drwy anfon neges destun neu e-bost.