Yn y canllaw hwn
6. Grisiau
Diogelwch tân a diogelwch cyffredinol
Er mwyn sicrhau lefel ddigonol o ddiogelwch tân ar gyfer yr annedd, bydd angen grisiau newydd sy'n gwasanaethu'r ystafell(oedd) newydd. Os nad oes digon o le i risiau traddodiadol llawn, gallai fod modd defnyddio grisiau sy'n arbed lle. Ni fydd grisiau neu ysgolion y gellir eu codi yn dderbyniol fel rheol.
Am resymau'n ymwneud â diogelwch cyffredinol, ceir meini prawf penodol y dylai dyluniad grisiau gydymffurfio â nhw.
Agorfa ar gyfer grisiau newydd
Fel rheol, byddai agorfa newydd yn cael ei chreu drwy dorri rhai o ddistiau'r nenfwd presennol i ffwrdd rhwng yr atig a'r ardaloedd presennol y gellir byw ynddynt yn y cartref. Bydd y distiau hyn yn cynnal y nenfwd presennol ac yn atal rhannau'r to sydd ar oleddf rhag ymwasgaru, felly dylid darparu cynhaliaeth o fath arall yn eu lle. Distiau fframio o bren o amgylch yr agorfa fydd y gynhaliaeth honno fel rheol, ac maent yn debygol iawn o gynnwys o leiaf dau bren sydd wedi'u clymu wrth ei gilydd (dist fframio dwbl) er mwyn sicrhau bod y llwyth yn cael ei drosglwyddo i'r prennau sy'n weddill.