Cylch gorchwyl
Cylch gorchwyl Cyngor Partneriaeth y Gweithlu (CPG).
Cynnwys
Diffiniad a diben
1.1 Mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu (y Cyngor) yn strwythur partneriaeth gymdeithasol ac iddo dair ochr, sef yr Undebau Llafur, y Cyflogwyr, a Llywodraeth Cymru, ar gyfer yr holl wasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru yn ffordd o weithio sy'n seiliedig ar set o ymddygiadau y mae pob partner yn ymrwymo i gadw atynt er mwyn cynorthwyo gweithlu ymroddgar ein gwasanaeth cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau cadarn ac effeithiol. Mae'n rhan o ddull gweithredu trosfwaol partneriaeth gymdeithasol sydd ar waith yng Nghymru.
1.2 Mae’r Cyngor yn gweithredu fel partneriaeth gyfartal rhwng Llywodraeth Cymru, y Cyflogwyr, a'r Undebau Llafur – gyda phob partner yn parchu sofraniaeth a strwythur penderfynu y partneriaid eraill. Mae gan y tri phartner drefniadau gwahanol o ran sofraniaeth, gwneud penderfyniadau, ac atebolrwydd, ac mae amrywiaeth hefyd o fewn strwythur unigol y partneriaid eu hunain.
1.3 Mae pob un o'r tri phartner yn cydnabod mai’r Cyngor yw'r prif fforwm ar gyfer materion sy'n berthnasol i’r gweithlu ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r Cyngor yn gweithio i sicrhau cytundeb ar faterion sy'n berthnasol ar draws y gwasanaeth cyhoeddus neu i'r gwasanaeth cyhoeddus yn ei gyfanrwydd. Mae cytundeb yng nghyd-destun partneriaeth gymdeithasol yn golygu cytundeb rhwng y tair ochr. Mae'n fforwm ar gyfer rhannu gwybodaeth ac arferion da ac ar gyfer dylanwadu, gan gynnwys ystyried, herio, a gwella polisïau wrth ddatblygu materion sy'n berthnasol i'r gweithlu ar draws y gwasanaeth cyhoeddus. Mae hefyd yn cefnogi arferion ar y cyd, hyd yn oed mewn sefyllfaoedd lle nad yw'n bosibl sicrhau cytundebau ffurfiol.
1.4 Mae’r Cyngor yn ffynhonnell canllawiau arbenigol a chyfeiriad cytûn ar faterion sy'n berthnasol i'r gweithlu ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Bydd yn gweithredu yn unol â'r egwyddorion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 er enghraifft, neu ddeddfwriaeth briodol arall a'r blaenoriaethau a nodir gan y Prif Weinidog yn y Strategaeth Genedlaethol, Ffyniant i Bawb, gan gynnwys y camau y mae angen eu cymryd i wneud Cymru yn genedl gwaith teg.
1.5 Er nad yw’r Cyngor ei hunan yn gorff sofran, mae ganddo ddylanwad a chyfreithlonrwydd sylweddol sy'n codi o ymrwymiad y tri phartner i weithio'n effeithiol o fewn strwythur tair ochrog. Mae hynny'n golygu bod pob partner yn cynrychioli ei grwpiau cyfansoddol, a bod arferion da, canllawiau a chytundebau’r Cyngor yn cael eu gweithredu.
1.6 Mae’r Cyngor yn nodi'r materion y dylid ymdrin â nhw drwy'r canllawiau neu'r cytundebau sydd ar waith ledled Cymru gyfan ar gyfer ein gwasanaeth cyhoeddus.
1.7 Mae’r Cyngor yn gweithio drwy'r cyrff perthnasol a gynrychiolir i sicrhau bod cytundebau ar gyfer Cymru gyfan yn cael eu gweithredu a bod y canllawiau yn cael eu dilyn.
1.8 Nid yw’r Cyngor yn fforwm ar gyfer cyd-fargeinio, datrys anghydfodau lleol, na materion sy'n ymwneud â sector penodol (oni bai bod y Cyd-bwyllgor Gweithredol wedi eu cymeradwyo fel materion sy'n briodol i’r Cyngor.)
Strwythur a llywodraethu
2.1 Bydd Cyflogwyr, Undebau Llafur, a Llywodraeth Cymru bob un yn gyfrifol am benodi eu haelodau eu hunain i’r Cyngor, gan sicrhau bod cynrychiolaeth o wahanol rannau o'r gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, yr Undebau Llafur, a meysydd polisi Llywodraeth Cymru.
2.2 Bydd aelodau’r Cyngor yn gyfrifol am gynrychioli buddiannau eu sector eu hunain a bydd angen iddynt fod mewn swydd lefel uwch gan feddu ar ddigon o awdurdod iddynt allu cynnal deialog ddwy ffordd effeithiol gyda'u sector. Hefyd ni ddylai aelodaeth y Cyngor newid o gyfarfod i gyfarfod. Fodd bynnag, cydnabyddir y gallai fod angen i Lywodraeth Cymru newid ei haelodaeth graidd o bryd i'w gilydd, gan gynnwys y gynrychiolaeth Weinidogol, gan ddibynnu ar y meysydd polisi sy'n cael eu trafod gan y Cyngor.
2.3 Bydd gan y Cyflogwyr, yr Undebau Llafur, a Llywodraeth Cymru eu trefniadau llywodraethu eu hunain i sicrhau bod aelodau'r Cyd-bwyllgor Gweithredol yn meddu ar yr awdurdod angenrheidiol i wneud penderfyniadau ac ymrwymiadau ar ran y rheini y maent yn eu cynrychioli. Bydd hyn hefyd yn gofyn am ddefnyddio dull gweithredu mwy strwythuredig i ymdrin â busnes y Cyngor, gyda hwnnw'n cael ei hwyluso drwy'r Cyd-bwyllgor Gweithredol, i ganiatáu ar gyfer ymgysylltu ymlaen llaw fel y bo angen.
2.4 Ni fydd y Cyngor yn mynd ati i ddyblygu neu ymgorffori'r trefniadau llywodraethu hyn, ond yn hytrach bydd yn gweithio gyda nhw a thrwyddyn nhw wrth wneud penderfyniadau ac o ran y llif gwybodaeth. Felly ni fydd angen i’r Cyngor feddu ar strwythur cefnogaeth daearyddol, ychwanegol, dynodedig nac ychwaith un sy'n seiliedig ar sectorau.
Cyd-bwyllgor Gweithredol Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a Chyfarfodydd Llawn y Cyngor
3.1 Bydd Cyd-bwyllgor Gweithredol y Cyngor yn atebol i’r Cyngor. Diben y Cyd-bwyllgor Gweithredol yw hwyluso gwaith y Cyngor, mewn ymgynghoriad â'r cyrff a gynrychiolir.
3.2 Bydd y Cyflogwyr, yr Undebau Llafur a Llywodraeth Cymru bob un yn penodi eu haelodau eu hunain i Gyd-bwyllgor Gweithredol y Cyngor, hyd at uchafswm o 3 aelod yr un.
3.3 Mae disgrifiad manylach o ddiben a rôl Cyd-bwyllgor Gweithredol y Cyngor i'w weld yn y cylch gorchwyl sydd wedi ei atodi.
3.4 Bydd cyfarfodydd llawn o’r Cyngor yn cael eu cynnal ddwywaith y flwyddyn. Bydd diben y cyfarfodydd yn cynnwys, ymysg materion eraill, cytuno ar y rhaglen waith ffurfiol a gynigir gan Gyd-bwyllgor Gweithredol y Cyngor.
Cyd-ysgrifenyddiaeth
4.1 Bydd Cyd-ysgrifenyddiaeth yn cefnogi gwaith Cyd-bwyllgor Gweithredol y Cyngor ar ran y strwythur tair ochrog. Ymysg pethau eraill, bydd yn atebol i'r Cyd-bwyllgor Gweithredol am y canlynol:
- cyflawni swyddogaethau ysgrifenyddiaeth arferol, gan gynnwys agendâu, papurau, a chofnodion o gyfarfodydd Cyd-bwyllgor Gweithredol y Cyngor a chyfarfodydd llawn y Cyngor
- gweithredu'r rhaglen waith a gytunir gan y Cyngor, gan gynnwys ymgysylltu'n rhagweithiol â phartïon o ddiddordeb ac arbenigwyr mewn sectorau, ardaloedd neu sefydliadau unigol perthnasol
- rhoi gwybod i'r Cyd-bwyllgor Gweithredol ynghylch amseroedd pwysig a phrosesau ar gyfer sicrhau cytundeb ar draws y partneriaid cymdeithasol.