Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Ers cyflwyno Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, mae’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth wedi parhau i gynghori a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar ddatblygu sgiliau amaethyddol a’r isafswm cyflog amaethyddol.
Heddiw, rwyf wedi llofnodi Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2019, sy’n amlinellu’r isafswm cyflog ar gyfer gweithwyr amaethyddol yng Nghymru, ynghyd â’u hamodau cyflogaeth gofynnol.
Wrth wneud ei argymhelliad, mae’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth wedi ystyried yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a materion sylweddol sy’n wynebu’r sector, gan gynnwys goblygiadau Brexit.
Bydd yr Isafswm Cyflog Amaethyddol yn cynyddu 5% ar gyfer gweithwyr Gradd 1 (25 oed a hŷn) a 4% ar gyfer gweithwyr Gradd 1 (16-24 oed) a Phrentisiaid Blwyddyn 2 (18-24 oed). Mae cynnydd o 2% wedi’i osod ar gyfer gweithwyr a gyflogir ar raddau eraill ac ar gyfer lwfansau ychwanegol.
Bydd darpariaethau’r Gorchymyn newydd yn berthnasol o heddiw ymlaen.
Mae Llywodraeth Cymru yn dal i ymrwymo i amcanion Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014. Mae’r darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth yn uniongyrchol gysylltiedig â threchu tlodi yng Nghymru wledig, ac mae’n cefnogi amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae sicrhau bod gweithwyr amaethyddol yn derbyn cyflog sy’n cydnabod y cyfraniad pwysig y maent yn ei wneud at sector amaethyddol Cymru a’u cyfraniad at yr amgylchedd a’r economi wledig, yn hollbwysig ac yn un o nodau allweddol y Llywodraeth hon. Mae’r Gorchymyn yn hwb i’m hymrwymiad i sicrhau bod y sector amaethyddol yn sector hyfyw wrth i ni symud tuag at bennod newydd ar gyfer y diwydiant yng Nghymru.
Rwy’n ddiolchgar i’r Panel a’i Gadeirydd, Lionel Walford, am eu hymdrechion o ran cyflwyno’r gorchymyn cyflogau newydd.