Mae busnes awyrofod ym Mrychdyn, a gafodd ei sefydlu yn dilyn cau Marshall Aviation Services, yn dathlu ar ôl ennill contract newydd gyda chwmni blaengar.
Mae Aerocare Aviation Services, sydd wedi’u lleoli yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, wedi cael eu penodi'n asiant ar gyfer y DU, a'r gosodwr a ffefrir yn y DU a rhannau o Ogledd Ewrop ar gyfer caban peilot gwydr modern Bendix King, sy'n hwb arall ar gyfer y cwmni a gafodd ei sefydlu yn 2017.
Busnes craidd Aerocare yw cynnal a chadw, atgyweirio, addasu ac ailwampio awyrennau busnes. Maent yn cynnig pecyn cyflawn gan gynnwys afioneg a chwistrellu paent, ac mae ailwampio tu mewn awyrennau yn cael ei gynnal i safonau uchel iawn ar gyfer y rhan o'r busnes sy'n ymdrin ag awyrennau moethus.
Cafodd y gwaith o sefydlu’r cwmni ei arwain gan Gyn-Reolwr Cyffredinol Marshall, gan gyflogi 28 cyn aelod o staff. Derbyniodd llawer o'r rhain gymorth gan Raglen ReAct Llywodraeth Cymru. Aeth y cwmni yn ei flaen i gyflogi cyfanswm o 40 cyn-gyflogai Marshall, ac mae'r cwmni bellach yn cyflogi 60 o staff gyda throsiant o £7 miliwn.
Yn ogystal â chymorth drwy raglen ReAct mae Aerocare hefyd wedi elwa ar y rhaglen Cymorth Sgiliau Hyblyg a’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnes, ac mae wedi rhannu stondin Llywodraeth Cymru mewn nifer o ddigwyddiadau awyrofod allweddol.
I ddathlu'r contract diweddaraf ymwelodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates, â'r cwmni wrth iddynt gynnal diwrnod agored gyda gweithredwyr posibl.
Dywedodd Ken Skates:
"Heb os mae Aerocare yn gwmni ffenics. Maen nhw wedi codi o'r siom o Marshall yn cau ac wedi cadw rhai o'r staff medrus gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Maen nhw’n enghraifft o lwyddiant gwirioneddol.
"Mae Brexit yn her fawr i bob un ohonon ni, ac mae'n dda gweld bod Aerocare wedi ennill hyder Bendix King fel ei asiant yn y DU, a'r gosodwr a ffefrir gyda gwaith posibl yng Ngogledd Ewrop, er yr heriau hyn.
"Mae'r diwydiant awyrofod yn hanfodol bwysig yn yr ardal hon, gydag amrywiaeth o fusnesau'n dewis ymsefydlu yma, gan ddod â swyddi ar gyfer pobl fedrus gyda nhw.
"Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth yn ei gallu i gefnogi'r diwydiant wrth inni wynebu'r heriau sydd o'n blaenau ni. Mae ein hymrwymiad i'r diwydiant yn amlwg wrth ein buddsoddiad yn y Ganolfan Gweithgynhyrchu ac Ymchwil Uwch gyfagos, a'r ffordd rydyn ni'n cefnogi busnesau drwy'r Gronfa Cydnerthedd Busnes.
"Hoffwn longyfarch Aerocare am eu newyddion da diweddaraf, ac rwy'n gobeithio y byddan nhw'n parhau i ffynnu."