Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Hannah Blythyn wedi cyhoeddi mwy na £700,000 o arian gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru ar gyfer y cam nesaf i drawsnewid Canolfan Glowyr Caerffili gynt yn ganolfan i’r gymuned.
Wrth ymweld â’r safle gyda’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James, gwelodd y Dirprwy Weinidog sut mae Canolfan Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned wedi agor rhannau o’r adeilad i bobl leol ddod ynghyd.
Dywedodd Hannah Blythyn:
Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i fwy na dyblu’r arwynebedd llawr sydd ar gael ac i wella mynediad i’r cyfleusterau cymunedol pwysig hyn. Mae Canolfan Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned yn helpu i ddod â phobl ynghyd, yn helpu i fynd i’r afael â dieithrwch cymdeithasol a thlodi, yn rhoi cymorth ar gyfer swyddi, yn darparu hyfforddiant a hefyd yn cynnig lle i fentrau cymdeithasol.
Mae’r hen adeilad hardd yma sydd wedi gwasanaethu’r gymuned cyhyd yn cael bywyd newydd ac edrychaf ymlaen at ei gweld yn datblygu’n ganolfan ffyniannus.
Mae’r prosiect yn rhan o’r rhaglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol, sef cynllun sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd ac sy’n cynnig £54 miliwn dros chwe blynedd i brynu, adnewyddu neu ailddatblygu adeiladau segur a thir o gwmpas neu’n agos at ganol trefi neu ddinasoedd ar draws Gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Bwriad y gronfa yw ysgogi buddsoddiad pellach o ryw £54 miliwn o leiaf gan greu cyfanswm o £108 miliwn i gymunedau ledled Cymru.
Mae’r gronfa Adeiladu ar gyfer y Dyfodol ar gyfer Ganolfan Gymunedol Glowyr Caerffili yn cynnwys buddsoddiad o dros £214,000 o arian gan Lywodraeth Cymru a mwy na £500,000 gan arian Ewropeaidd.
Dywedodd Katherine Hughes, Ysgrifenyddes Canolfan Gymunedol Glowyr Caerffili:
Rydyn ni’n hynod o gyffrous am y rhagolygon a ddaw yn sgil y grant yma. Ers agor yn 2015 mae ein gweithgareddau wedi tyfu ac rydyn ni, yn syml iawn, wedi rhedeg allan o le. Bob wythnos, byddwn ni’n cynnig 30 o weithgareddau i 350 o bobl o bob oed ac amgylchiadau, rydym hefyd yn cynnal cyrsiau sy’n gysylltiedig â gwaith ac mae gennym 50 o wirfoddolwyr. Bydd y grant yn ein galluogi i estyn ein gweithgareddau a mynd i’r afael yn well â’n prif anghenion, megis cynhwysiant cymdeithasol, llesiant a sicrhau lle fforddiadwy i fentrau bach.