Yn y canllaw hwn
4. Inswleiddio atig
Os byddwch yn gosod deunydd inswleiddio yn eich atig, bydd yn rhaid i'r gwaith fodloni'r gwerthoedd gofynnol o ran effeithlonrwydd ynni, a nodir yn y Dogfennau Cymeradwy.
Fodd bynnag, os nad yw gwaith uwchraddio o'r fath yn ymarferol o safbwynt technegol neu swyddogaethol, dylid uwchraddio'r elfen i'r safon orau y gellir ei chyrraedd o fewn cyfnod ad-dalu syml nad yw'n hwy na 15 mlynedd.
Os byddwch yn gosod deunydd inswleiddio atig yn rhan o waith adnewyddu to, lle caiff dros 25 y cant o'r to ei adnewyddu, dylai lefel yr inswleiddio gyrraedd y safonau sy'n ofynnol gan Ddogfennau Cymeradwy rheoliadau adeiladu. Dylid gofalu na chaiff unrhyw fentiau ar yr ymylon (wrth y bondo) eu blocio.
Cliciwch yma i ddarllen mwy am doeau (gan gynnwys gwybodaeth am wydnwch thermol)